Neidio i'r prif gynnwy

Gweithiwr y GIG yn cael carchar am 6 mis a gwaharddiad o 12 mis yn dilyn twyll gordaliad o £20,000

Overpayment fraud

Yn dilyn ymchwiliad gan Wasanaeth Atal Twyll GIG Cymru, cafodd Lauren O’Keefe, Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd, garchar o 6 mis a chafodd ei gwahardd am 12 mis wedi iddi wario’r holl arian yr oedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wedi ei ordalu iddi trwy gamgymeriad. (BIPCTM) (Llys y Goron Merthyr Tudful, 29 Hydref 2019).

Roedd gan Lauren O’Keefe gontract dim oriau ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg drwy ei Fanc Nyrsys. Fodd bynnag, rhwng mis Ebrill 2017 a mis Ionawr 2019, cafodd ei thalu cyflog llawn-amser o £21,524.72 (net) trwy gamgymeriad.

Yn dilyn atgyfeiriad gan yr Arbenigwr Atal Twyll Lleol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, lansiodd Gwasanaeth Atal Twyll GIG Cymru ymchwiliad. Fel rhan o’r ymchwiliad, cwblhaodd Ymchwilydd Ariannol yng Ngwasanaeth Atal Twyll GIG Cymru ddadansoddiad o gyfrif banc O’Keefe, gan ddarganfod ei bod wedi gwario’r holl arian a gafodd ei thalu iddi trwy gamgymeriad. Roedd wedi gwario £500 ar gwrs harddwch, a gwario’r gweddill ar dreuliau beunyddiol.

Yn ystod cyfweliad o dan rybudd, cyfaddefodd O’Keefe ei bod yn gwybod ei bod wedi cael ei gordalu o’r dechrau ond ei bod wedi penderfynu gwario’r arian beth bynnag.

 

Meddai Cheryl Hill, Dirprwy Reolwr Gweithredol Twyll yng Ngwasanaeth Atal Twyll GIG Cymru:
“Gwariodd Lauren O’Keefe arian y GIG, nad oedd wedi ei ennill ac nad oedd yn eiddo iddi, yn fwriadol. Yn hytrach na rhoi gwybod i’r bwrdd iechyd ei bod yn derbyn cyflog llawn-amser trwy gamgymeriad, penderfynodd gadw’r arian a’i wario arni hi ei hun – arian y dylai fod wedi cael ei wario ar wasanaethau’r GIG. Hoffwn bwysleisio bod mwyafrif helaeth staff y GIG yn onest, yn gweithio’n galed ac yn poeni’n fawr am y GIG. Atgoffir staff y GIG bod ganddynt gyfrifoldeb dros roi gwybod i’w cyflogwr os ydynt wedi cael eu gordalu. Os byddant yn gweld gordaliad, mae’n bwysig eu bod yn rhoi gwybod i’w cyflogwr ar unwaith, neu byddant yn wynebu’r canlyniadau os byddant yn penderfynu cadw a gwario’r arian”.