Yn ystod pandemig Coronafeirws mae angen i'r GIG fod yn fwy gwyliadwrus byth oherwydd bod risg twyll yn cynyddu. Mae Awdurdod Atal Twyll y GIG (NHS CFA) wedi cyhoeddi canllawiau ar ba gamau y gall y GIG a'r cyhoedd eu cymryd i liniaru risg twyll. Gellir gweld y canllawiau ar wefan NHS CFA https://cfa.nhs.uk.
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau yn y Gymraeg.
Ni fydd ymgysylltu gyda ni yn y Gymraeg yn arwain at oedi.
Yn dilyn ymchwiliad gan Wasanaeth Atal Twyll Cymru y GIG, dedfrydwyd Clare Boland, cyn-reolwr practis Meddyg Teulu i 3 blynedd mewn carchar yn Llys y Goron Abertawe.
Mewn gwrandawiad cynharach, roedd Boland wedi cyfaddef iddi gymryd £324,000 gan ei chyflogwr a phlediodd yn euog i un drosedd o Dwyll drwy Gamddefnyddio Swydd.
Roedd Boland yn gweithio ym Meddygfa Fairfield ym Mhort Talbot er 2009. Roedd ganddi gyfrifoldeb llwyr am weithrediadau ariannol dyddiol y practis gan gynnwys y gyflogres a thalu meddygon locwm a chyflenwyr.
Ar adeg ei hataliad yn 2022 roedd ei chyflog oddeutu £45,000 y flwyddyn. Daeth y twyll i’r amlwg pan ddarganfuwyd rhai dogfennau ariannol yn y feddygfa a oedd yn dangos bod taliad diweddar wedi'i wneud i feddyg locwm nad oedd wedi gweithio yn y feddygfa ers nifer o flynyddoedd.
Cyfeiriodd un o uwch bartneriaid y practis y mater at Heddlu De Cymru fis Mawrth 2022 a throsglwyddwyd y mater i Wasanaeth Atal Twyll Cymru y GIG i'w ymchwilio. Fel rhan o'r ymchwiliad, cynhaliodd Ymchwilydd Ariannol Gwasanaeth Atal Twyll Cymru y GIG ddadansoddiad o gyfrif banc Boland a phenderfynu bod yr arian a gafodd ei ddwyn wedi'i drosglwyddo i'w chyfrif banc a'i wario.
Dywedodd y Barnwr Catherine Richards wrth ei dedfrydu:
“Mae effaith y math hwn o dwyll yn amrywiol – yn emosiynol, yn ymarferol ac yn ariannol.”
Meddai Cheryl Hill, Dirprwy Reolwr Gweithredol Twyll yng Ngwasanaeth Atal Twyll GIG Cymru:
“Mae effaith gweithredoedd twyllodrus Boland yn bellgyrhaeddol ac wedi cael effaith sylweddol ar ei chyn-gyflogwr. Camddefnyddiodd Boland ei statws ac ymddiriedaeth ei chyflogwyr a'i chydweithwyr ar gyfer ei chwant personol ei hun.
“Bydd Gwasanaeth Atal Twyll Cymru y GIG nawr yn defnyddio ei bwerau o dan Ddeddf Enillion Troseddau 2002 i adennill yr arian a ladratodd Boland a’i ddychwelyd i’r dioddefwyr.”