Diolch i chi am ymweld â'r dudalen hon, gobeithiwn y bydd yr adnoddau yn ddefnyddiol i chi.
Gall anhwylderau bwyta fod yn ddifrifol ac effeithio ar bobl o bob oed a chefndir. Os oes gennych anhwylder bwyta neu'n teimlo y gallai fod angen cymorth arnoch, dilynwch y dolenni isod i gael cefnogaeth, awgrymiadau ac arweiniad. Bydd eich meddyg teulu yn gallu cynnig cymorth pellach.
Mae PCGC hefyd yn cynnig Gwasanaeth Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl a Gwasanaeth Cefnogaeth gan Gymheiriaid. Dilynwch y ddolen isod i gysylltu â’r gwasanaethau.