Diolch i chi am ymweld â'r dudalen hon, gobeithiwn y bydd yr adnoddau yn ddefnyddiol i chi.
Gorbryder yw'r hyn rydyn ni'n ei deimlo pan rydyn ni o dan straen, yn ofnus neu'n poeni. Mae gorbryder yn ymateb normal i ddigwyddiadau neu newidiadau sy'n achosi straen, ond weithiau gall y teimladau hyn droi'n llethol, a gall arwain at orbryder difrifol a hyd yn oed pyliau o banig.
Os byddwch chi'n teimlo'n orbryderus neu'n profi panig, dilynwch y dolenni isod lle cewch cymorth, cyngor ac arweiniad.
Mae PCGC hefyd yn cynnig Gwasanaeth Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl a Gwasanaeth Cefnogaeth gan Gymheiriaid. Dilynwch y ddolen isod i gysylltu â’r gwasanaethau.