Mae'r llawlyfr yn rhoi cyngor ac arweiniad ar bob agwedd ar lywodraethu yn y GIG yng Nghymru. Mae'r fframwaith ar gyfer y llawlyfr yn seiliedig ar Egwyddorion Llywodraethu Sy'n Canolbwyntio ar y Dinesydd Llywodraeth Cymru, sy'n berthnasol i bob corff cyhoeddus yng Nghymru.
Mae'r egwyddorion hyn yn integreiddio pob agwedd ar lywodraethu ac yn cynnwys y gwerthoedd a’r safonau ymddygiad a ddisgwylir ar bob lefel o wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Cynhelir e-Lawlyfr Llywodraethu GIG Cymru gan Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru ar ran Llywodraeth Cymru.