Neidio i'r prif gynnwy

Sicrhau Gwerth am Arian

Achieving Value For Money

Mae’r adran hon yn rhoi arweiniad ar ofalu am adnoddau trethdalwyr a’u defnyddio’n ofalus i ddarparu gwasanaethau sy’n effeithlon ac o ansawdd uchel; ac mae’n ymdrin â phynciau fel stiwardiaeth a rheolaeth ariannol, gwerth am arian, cyllid y GIG a chynnal y gymuned gyllid.  

Caiff Sicrhau Gwerth am Arian ei ategu gan yr agweddau penodol ar reolaeth ariannol sy’n codi o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Yn gyffredinol mae’r un egwyddorion sylfaenol yn berthnasol ym mhob rhan o sector cyhoeddus y DU, gydag addasiadau yn ôl yr angen ar gyfer cyd-destun. Dylai pawb sy’n gweithio mewn gwasanaethau cyhoeddus yn y DU fod yn ymwybodol o’r angen i reoli a defnyddio adnoddau cyhoeddus yn gyfrifol er lles y cyhoedd.

Er bod yr egwyddorion hyn yn hollbwysig, bydd y cyngor yn eu cylch yn newid dros amser. Bydd y gyfraith yn symud yn ei blaen; bydd y safonau a ddefnyddir mewn busnes a bywyd cyhoeddus yn datblygu; bydd technegau newydd yn dod i’r amlwg; a bydd disgwyliadau’r cyhoedd yn newid. Trwy’r holl newidiadau hyn, bydd Senedd y DU a Chynulliad Cenedlaethol Cymru wrth gwrs yn disgwyl bod arian cyhoeddus, a godwyd drwy drethi neu ffioedd sector cyhoeddus, yn cael ei ddefnyddio’n briodol. Byddant yn disgwyl i’r Trysorlys a Llywodraeth Cymru helpu gweision sifil i ateb y disgwyliadau hyn mewn ffordd dryloyw, gyfrifol a chyson. Felly byddant yn disgwyl gweld y canllawiau a’r safonau ar y wefan hon yn cael eu dilyn.