Neidio i'r prif gynnwy

Meithrin darpariaeth arloesol

Fostering Innovative Delivery

Mae’r adran hon yn ymdrin â phynciau fel rheoli risg, ymchwil ac adnoddau.

Mae meithrin darpariaeth arloesol yn ymwneud â bod yn greadigol wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus – gweithio o dystiolaeth a chymryd risgiau a reolir i sicrhau gwell canlyniadau. Y cysyniadau craidd yw meddwl y tu allan i’r blwch, parodrwydd i roi cynnig ar rywbeth newydd ac arbrofi â ffyrdd newydd o gyflenwi. Sut bynnag y’i mynegir, yr un yw’r egwyddor. Mae’r sefydliadau gorau yn agored i syniadau newydd ac yn barod i fod yn greadigol, i roi cynnig ar bethau ac i gymryd risgiau a reolir yn y broses. Efallai y bydd gwahaniaeth yma rhwng gair a gweithred, am y bydd rhai sefydliadau’n dweud (ac yn credu) eu bod yn arloesol ond yn ymarferol ofn methiant neu feirniadaeth fydd yr agwedd amlycaf.  

Dyma lle y mae rheoli risg yn bwysig yn yr egwyddorion. Mae gan y rhan fwyaf o sefydliadau brosesau rheoli risg sydd o leiaf yn ddigonol mewn egwyddor. Yr hyn sy’n bwysig yw’r graddau yn ymarferol yr aiff y sefydliad ati i reoli risg yn hytrach na chadw cofrestrau risg i fodloni’r archwilwyr. Bydd sefydliadau gwirioneddol dda yn barod i gymryd risgiau a reolir ac weithiau’n barod i fethu. Byddant yn cydnabod yn y cyfnod cymhleth hwn bod angen iddynt fod yn gall wrth gymryd risgiau – bod yn llawer mwy gofalus o ran y trefniadau bancio, er enghraifft, nag o ran trio ffyrdd gwahanol o wneud pethau; a byddant yn seilio’u penderfyniadau ar dystiolaeth o’r hyn sy’n ymddangos yn effeithiol ac yn aneffeithiol. 

 

Ymchwil

Mae ymchwil yn y GIG yn fuddiol i gleifion ac i'r gwasanaeth. Gall meithrin ymchwil ac arloesi wella diogelwch cleifion, datblygu gwell gwasanaethau ac arbed arian.

Cyn y gall unrhyw ymchwil ddigwydd yn y GIG, mae'n bwysig sicrhau bod yr ymchwil a wneir ac a gefnogir yng Nghymru yn cael ei wneud yn iawn ac yn sensitif, gan barchu hawliau, urddas, diogelwch a lles cleifion a chlientiaid. Mae'r Fframwaith Llywodraethu Ymchwil Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru (2009) yn nodi'r cyfrifoldebau sy'n eiddo i noddwyr ymchwil, arianwyr, ymchwilwyr, sefydliadau sy'n cyflogi, sefydliadau gofal, gweithwyr gofal proffesiynol a chyfranogwyr. Mae gan bob un ran i'w chwarae yn y gwaith o sicrhau bod unrhyw ymchwil a wneir ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yn cyrraedd y safonau hyn.

Sefydliadau'r Gig

 Mae dyletswydd ansawdd sefydliadau gofal iechyd yn cynnwys llywodraethu ymchwil. Dylent sicrhau bod eu cleifion, defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr, ynghyd â gweithwyr gofal proffesiynol, yn cael gwybodaeth ynglwn ag unrhyw ymchwil a all gael effaith uniongyrchol ar eu gofal, eu profiad o ofal, neu eu gwaith yn y sefydliad. Dylent sicrhau mai dim ond os cânt eu rheoli fel ymchwil o fewn y Fframwaith Llywodraethu Ymchwil y cyflwynir gweithgareddau fel ymchwil.

Noddwyr Y Gig

Yn achos unrhyw astudiaeth ymchwil a ddaw o dan y Fframwaith Llywodraethu Ymchwil, mater i'r noddwr yw bod yn sicr bod cytundebau clir yn cael eu sicrhau, eu cofnodi a'u gwireddu, gan ddarparu ar gyfer cychwyn, rheoli, monitro ac ariannu priodol. Os oes trefniadau ar waith, gall sefydliadau'r GIG weithredu fel noddwyr.

Ceir rhagor o wybodaeth am ofynion llywodraethu ymchwil o ran sefydliadau a noddwyr yn adrannau 8.0 a 10.0 o ail argraffiad y Fframwaith Llywodraethu Ymchwil.