Neidio i'r prif gynnwy

Ymgysylltu ag Eraill

Engaging With Others

Mae’r GIG yng Nghymru wedi’i seilio ar y syniad o gydweithio, cydlafurio a gwaith partneriaeth; ac mae’r adran hon yn rhoi arweiniad ar argyfyngau sifil posibl a chynllunio at argyfyngau, ac ar gydweithio â’r Trydydd Sector.

Mae ymgysylltu ag eraill yn golygu cydweithio ag eraill trwy gysylltiadau adeiladol i sicrhau’r canlyniad gorau i ddinasyddion. Mae darparwyr gwasanaethau cyhoeddus wedi sylweddoli na all neb weithredu’n effeithiol ar ei ben ei hun. Mae pob sefydliad yn dibynnu ar eraill i’w helpu i ddarparu ei wasanaethau ac i weithredu yn y ffordd fwyaf effeithiol. Arferid ystyried gwaith partneriaeth yn ychwanegiad dymunol at fusnes craidd os byddai amser a lle iddo; ond nid felly y dylai fod heddiw.

Dylid ystyried ymgysylltu ag eraill yn rhan o’r busnes craidd. Mae’n golygu gwybod pwy yw ei bartneriaid allweddol, bod yn glir ynglŷn â phwrpas pob partneriaeth a gwahanol rolau’r rhai sy’n cymryd rhan, a thrin partneriaid â pharch fel rhai cydradd hyd yn oed os oes gwahaniaeth mewn maint neu ddylanwad. Dylai’r holl bartneriaethau fod yn canolbwyntio ar y dinesydd ac yn anelu at ddarparu gwell gwasanaethau, a dylent fod yn berffaith glir ynglŷn â chanlyniadau, gwerthusiadau a chyfrifoldebau perthynol. Dylai partneriaethau gael eu hadolygu’n barhaus a dylent fod yn barod i newid, addasu neu ddod i ben os byddant yn peidio â bod yn ddefnyddiol.