Neidio i'r prif gynnwy

Bod yn Sefydliad sy'n Dysgu

Being a Learning Organisation

Mewn sefydliad sy’n dysgu bydd pobl yn parhau i ehangu eu gallu i wella; ac mae’r adran hon yn cynnwys canllawiau arfer da a gwybodaeth am Weithio i Wella, yr Ymgyrch 1,000 o Fywydau ac arfau dysgu eraill.

Bydd y rhan fwyaf o sefydliadau’n eich sicrhau eu bod yn “sefydliadau sy’n dysgu” – neu o leiaf yn ceisio bod – ond ni fyddant i gyd yn gallu rhoi enghreifftiau i chi o’r hyn y maent wedi’i ddysgu yn y deuddeng mis diwethaf. Unwaith eto, y rheswm weithiau yw diwylliant – beth fydd yn digwydd os caiff y sefydliad neu ei weithgareddau eu beirniadu?

Bydd rhai sefydliadau, neu unigolion o fewn sefydliadau, yn ymateb drwy fod yn amddiffynnol, bydd eraill yn croesawu’r cyfle i wella’r hyn a wnânt. Yn achos prosesau, yr egwyddor o wneud pethau’n iawn y tro cyntaf yw’r amcan; ond yn achos polisïau, bydd sefydliadau gwirioneddol dda yn gwybod eu bod yn annhebygol o wneud pethau’n hollol iawn y tro cyntaf, a bod angen adborth a gwerthusiadau er mwyn iddynt dyfu a dysgu. Felly mae bod yn sefydliad sy’n dysgu yn golygu bod â systemau i gael adborth am y gwasanaethau a ddarperir, defnyddio’r adborth hwnnw i wella’r hyn a wna, a chymryd cwynion o ddifrif a’u defnyddio fel cyfle i wella. Mae hefyd yn golygu buddsoddi yn hyfforddiant a datblygiad ei staff.