Rhaid i Fyrddau Iecyd Lleol (BILlau) yng Nghymru gytuno ar Reolau Sefydlog sydd, ynghyd â chyfres o Gyfarwyddiadau Ariannol Sefydlog a chynllun o benderfyniadau a gedwir ar gyfer y Bwrdd; cynllun o ddirprwyaethau i swyddogion ac eraill; ac amrywiaeth o ddogfennau fframwaith eraill, yn nodi’r trefniadau y mae'r Bwrdd, ei Bwyllgorau, ei Grwpiau Cynghori a staff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) yn gwneud eu penderfyniadau ac yn ymgymryd â'u gweithgareddau yn unol â hwy - ei 'ffyrdd o weithio'. Dylid seilio'r Rheolau Sefydlog ar y model a bennwyd gan Lywodraeth Cymru.
Noder: Cafodd y Rheolau Sefydlog Enghreifftiol a'r Cyfarwyddiadau Ariannol Sefydlog eu hadolygu ddiwethaf ym mis Gorffennaf 2023 ac yna fe wnaed diwygiadau interim ym mis Mawrth 2024. Mae'r fersiynau diweddaraf i'w gweld isod. Os oes gennych unrhyw gwestiynau cysylltwch â:
NHSWalesGovernanceEManual@gov.Wales
Mae Rheolau Sefydlog y BILl yn cynnwys yr hyn a ganlyn fel Atodlenni i Reolau Sefydlog BILl: