Neidio i'r prif gynnwy

Rheolau Sefydlog - Awdurdodau Iechyd Arbennig

 

Rhaid i Awdurdodau Iechyd Arbennig yng Nghymru gytuno ar Reolau Sefydlog sydd, ynghyd â chyfres o Gyfarwyddiadau Ariannol Sefydlog a chynllun o benderfyniadau a gedwir ar gyfer y Bwrdd; cynllun o ddirprwyaethau i swyddogion ac eraill; ac amrywiaeth o ddogfennau fframwaith eraill fel y nodir yn y trefniadau y mae'r Bwrdd, ei Bwyllgorau, ei Grwpiau Cynghori a staff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) yn gwneud eu penderfyniadau ac yn ymgymryd â'u gweithgareddau yn unol â hwy - ei 'ffyrdd o weithio'. Dylid seilio'r Rheolau Sefydlog ar y model a bennwyd gan Lywodraeth Cymru.
 

Ar hyn o bryd, mae dau Awdurdod Iechyd Arbennig: Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) ac Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW). 

Noder: Mae'r Rheolau Sefydlog a'r Cyfarwyddiadau Ariannol Sefydlog Enghreifftiol wedi'u diweddaru'n ddiweddar ac mae angen newidiadau fel yr isod.  Bydd y fersiynau diweddaraf yn cael eu cyhoeddi yn yr wythnosau nesaf.  Yn y cyfamser, os oes gennych unrhyw gwestiynau, e-bostiwch:

NHSWalesGovernanceEManual@gov.Wales

Mae Rheolau Sefydlog AaGIC yn cynnwys yr hyn a ganlyn fel Atodlenni i Reolau Sefydlog AaGIC:

  • Atodlen 1 - Rheolau Sefydlog Enghreifftiol AaGIC, Cadw a Dirprwyo Pwerau [Mawrth 2021]
  • Atodlen 2.1 - Cyfarwyddiadau Ariannol Sefydlog Enghreifftiol AaGIC [Mawrth 2021]
  • Atodlen 3 - Cylch Gorchwyl a Threfniadau Gweithredu Safonol ar gyfer holl Bwyllgorau'r Bwrdd [Medi 2018]
    • Cylch Gorchwyl a Threfniadau Gweithredu'r Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd
    • Cylch Gorchwyl a Threfniadau Gweithredu'r Pwyllgor Tâl Cydnabyddiaeth a Thelerau Gwasanaeth

Mae Rheolau Sefydlog IGDC yn cynnwys yr hyn a ganlyn fel Atodlenni i Reolau Sefydlog IGDC:

  • Atodlen 1 - Rheolau Sefydlog Enghreifftiol IGDC, Cadw a Dirprwyo Pwerau [Mawrth 2021]
  • Atodlen 2.1 - Cyfarwyddiadau Ariannol Sefydlog Enghreifftiol IGDC [Mawrth 2021]
  • Atodlen 3 – Cylch Gorchwyl a Threfniadau Gweithredu Safonol ar gyfer holl Bwyllgorau'r Bwrdd [Mawrth 2021]
    • Cylch Gorchwyl a Threfniadau Gweithredu'r Pwyllgor Archwilio
    • Cylch Gorchwyl a Threfniadau Gweithredu'r Pwyllgor Tâl Cydnabyddiaeth a Thelerau Gwasanaeth
  • Atodlen 4 – Cylch Gorchwyl a Threfniadau Gweithredu y Fforwm Partneriaeth Lleol

 

Dogfennau