Neidio i'r prif gynnwy

Rheolau Sefydlog - Ymddiriedolaethau'r GIG

 

Rhaid i Ymddiriedolaethau yng Nghymru gytuno ar Reolau Sefydlog sydd, ynghyd â chyfres o Gyfarwyddiadau Ariannol Sefydlog a chynllun o benderfyniadau a gedwir ar gyfer y Bwrdd; cynllun o ddirprwyaethau i swyddogion ac eraill; ac amrywiaeth o ddogfennau fframwaith eraill fel y nodir yn y trefniadau y mae'r Bwrdd, ei Bwyllgorau, ei Grwpiau Cynghori a staff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) yn gwneud eu penderfyniadau ac yn ymgymryd â'u gweithgareddau yn unol â hwy – ei 'ffyrdd o weithio'. Dylid seilio'r Rheolau Sefydlog ar yr enghraifft a bennwyd gan Lywodraeth Cymru.

Noder: Cafodd y Rheolau Sefydlog Enghreifftiol a'r Cyfarwyddiadau Ariannol Sefydlog eu hadolygu ddiwethaf ym mis Gorffennaf 2023 ac yna fe wnaed diwygiadau interim ym mis Mawrth 2024. Mae'r fersiynau diweddaraf i'w gweld isod. Os oes gennych unrhyw gwestiynau cysylltwch â:

NHSWalesGovernanceEManual@gov.Wales

Mae Rheolau Sefydlog Ymddiriedolaeth yn cynnwys yr hyn a ganlyn fel Atodlenni i Reolau Sefydlog Ymddiriedolaeth:

  • Atodlen 1 Cadw a Dirprwyo Pwerau (Enghreifftiol) Ymddiriedolaeth [Mawrth 2024]
  • Atodlen 2.1 Cyfarwyddiadau Ariannol Sefydlog Enghreifftiol Ymddiriedolaeth [Mawrth 2023]
  • Rheolau Sefydlog Ymddiriedolaeth - Rhestr Dermau [Medi 2019]

 

 Dogfennau