Neidio i'r prif gynnwy

Rheolau Sefydlog - Cyd-bwyllgorau

 

Rhaid i bob Bwrdd Iechyd Lleol (BILl) yng Nghymru gytuno ar Reolau Sefydlog ar gyfer rheoleiddio'r Cyd-bwyllgorau. Trafodion a busnes Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru (WHSSC) a'r Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Ambiwlans Brys (EASC) yw'r rhain. Mae’r Rheolau Sefydlog WHSSC a’r Rheolau Sefydlog EASC hyn yn llunio atodlen i Reolau Sefydlog pob BILl, ac yn cael effaith fel pe baent wedi'i hymgorffori ynddynt. Fe'i cynlluniwyd i roi'r gofynion statudol a nodir yn Rheoliadau Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru (Cymru) 2009 (2009/3097), Rheoliadau’r Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys (Cymru) 2014 (2014/566) a Rheolau Sefydlog BILl 3 ar waith yn eu hymarfer dyddiol. Ynghyd â mabwysiadu cynllun o benderfyniadau a gedwir i'r Cyd-bwyllgor; cynllun o ddirprwyaethau i swyddogion ac eraill; a Chyfarwyddiadau Ariannol Sefydlog WHSSC a EASC, maent yn darparu'r fframwaith rheoleiddiol ar gyfer cynnal busnes y Cyd-bwyllgorau.
 
Gellir gweld manylion Rheolau Sefydlog enghreifftiol WHSSC a EASC isod. Mae Atodlenni 4.1 a 4.2 i Reolau Sefydlog BILl yn rhan o Reolau Sefydlog BILl, a byddant yn cael effaith fel pe baent wedi'u hymgorffori yn Rheolau Sefydlog BILl.
 
Mae Rheolau Sefydlog enghreifftiol wedi cael eu cyhoeddi ar gyfer WHSSC hefyd. Hyd yma, nid oes unrhyw Reolau Sefydlog enghreifftiol wedi cael eu datblygu ar gyfer EASC. 
 
Noder: Mae'r Rheolau Sefydlog a'r Cyfarwyddiadau Ariannol Sefydlog Enghreifftiol wedi'u diweddaru'n ddiweddar ac mae angen newidiadau fel yr isod.  Bydd y fersiynau diweddaraf yn cael eu cyhoeddi yn yr wythnosau nesaf.  Yn y cyfamser, os oes gennych unrhyw gwestiynau, e-bostiwch:

NHSWalesGovernanceEManual@gov.Wales

 

Dogfennau