Neidio i'r prif gynnwy

Profiad y Claf

Profiadau defnyddwyr gwasanaethau

Defnyddiwr gwasanaethau yw person sy'n defnyddio gwasanaethau iechyd mewn unrhyw leoliad neu sydd â mynediad atynt, gan gynnwys eu teuluoedd a gofalwyr di-dâl.  Profiad defnyddiwr gwasanaethau yw 'sut y mae'n teimlo i fod yn un o ddefnyddwyr y GIG’. 

Mae gwella'r profiad o ran gofal iechyd yn un o flaenoriaethau allweddol GIG Cymru. Gweledigaeth yr Adolygiad Seneddol o Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru yw cael system iechyd a gofal cymdeithasol integredig gydag un o'r pedwar nod (y nod pedwarplyg) er mwyn gwella'r profiad ac ansawdd y gofal i unigolion a theuluoedd. 

Cyhoeddwyd y Fframwaith ar gyfer Gwella Profiadau Defnyddwyr Gwasanaethau i GIG Cymru am y tro cyntaf yn 2013 fel dull cenedlaethol ar gyfer cael adborth o ran eu profiadau gan ddefnyddwyr gwasanaethau iechyd er mwyn gwella gwasanaethau. Diweddarwyd y Fframwaith yn 2015 o ganlyniad i Ymddiried mewn Gofal a Defnyddio Cwynion yn Rhodd, ac yn sgil y Safonau Iechyd a Gofal diwygiedig. 

Cyhoeddwyd cwestiynau craidd o ran profiad defnyddwyr gwasanaethau yn 2013 i gefnogi'r dull amser real o gasglu adborth a amlinellir yn y Fframwaith.  Ni ddiweddarwyd y cwestiynau craidd yn 2015 a daeth yn amlwg bod angen iddynt gael eu dilysu.

Yn 2017 aethpwyd ati mewn partneriaeth â GIG Cymru i ddilysu'r Mesurau Canlyniadau a Gofnodir gan Gleifion (PROMs), Mesurau Profiadau a Gofnodir gan Gleifion (PREMs) a'r Rhaglen Effeithiolrwydd (PPEP). Argymhellwyd set derfynol o un ar ddeg o gwestiynau craidd a ddilyswyd ar gyfer ymdrin â phrofiadau defnyddwyr gwasanaeth. O ganlyniad, diweddarwyd y cwestiynau craidd a'r Fframwaith.

Dylid defnyddio'r cwestiynau craidd a ddilyswyd ym mhob sefydliad GIG Cymru i gael adborth amser real.  Gellir eu hategu drwy ofyn cwestiynau sy'n benodol i'r gwasanaeth fel y bo'n briodol, er mwyn eu cymhwyso i wahanol leoliadau gofal.

 

Boddhad defnyddwyr gwasanaethau

Caiff boddhad defnyddwyr gwasanaethau / y claf ei fesur yn y GIG drwy Arolwg Cenedlaethol Cymru.  Mae profiad a boddhad defnyddwyr gwasanaethau yn debyg ond mae gwahaniaeth rhyngddynt. Mae gan bob defnyddiwr gwasanaeth brofiad ond nid yw'r profiad bob amser yn golygu bod y person yn fodlon.  Mae boddhad defnyddwyr gwasanaethau yn cyfeirio at y disgwyliadau sydd gan y person o ran ei ofal ac mae'n oddrychol, mae modd i ddau unigolyn gael union yr un gofal ond bydd lefel eu boddhad yn wahanol iawn i'w gilydd. 

 

Llyfrgell ddogfennau