Mae’r Polisi Talebau Gofal Plant isod yn cynnwys rhestr o gwestiynau cyffredin er gwybodaeth.
Ar wahanol adegau yn ystod y flwyddyn, mae PCGC yn cynnig cyfle i weithwyr brynu beic trwy Gynllun Seiclo i’r Gwaith. Am ragor o wybodaeth ac i ganfod dyddiadau’r cynllun, e-bostiwch: michelle.richards@wales.nhs.uk.
Mewn cydweithrediad â NHS Fleet Solutions, mae PCGC yn cynnig Cynllun Prydlesu Car Trwy Aberthu Cyflog. Nod y cynllun yw rhoi’r cyfle i bob aelod o staff parhaol yn PCGC gael gafael ar gar newydd o’i ddewis am bris cystadleuol iawn, gan wneud arbedion ariannol i’r sefydliad ar yr un pryd a fydd yn cefnogi’r gwasanaethau a ddarperir i gleifion. Am ragor o wybodaeth am y Cynllun Prydlesu Ceir, gweler y cyfathrebiad isod neu e-bostiwch Michelle Richards: michelle.richards@wales.nhs.uk.
Cynllun Prydlesu Ceir GIG Cymru
Am wybodaeth i feddygon sydd â phroblemau iechyd (Cwnsela i Feddygon), gweler Iechyd Gweithwyr Iechyd Proffesiynol Cymru.
Mae gan weithwyr PCGC hawl i’r Cynllun Cymorth i Weithwyr hefyd. Am ragor o wybodaeth am y Cynllun Cymorth i Weithwyr, cysylltwch â Thîm Gweithlu Meddygol PCGC trwy e-bostio NWSSPGPSingleLeadEmployer@wales.nhs.uk.
Mae PCGC a’ch sefydliad lletyol yn cynnig mentrau Iechyd a Lles ynghyd ag amrywiaeth o ddisgowntiau mewn siopau, bwytai ac atyniadau lleol.