Neidio i'r prif gynnwy

Treuliau

Expenses

E-dreuliau

Er mwyn i hyfforddeion hawlio treuliau sy’n gysylltiedig â theithio ac absenoldebau astudio yn ystod eu cyflogaeth gyda PCGC, mae’n ofynnol eu bod yn cyflwyno’u hawliadau trwy eu cyfrif e-dreuliau pwrpasol ar lein.

Am y manylion llawn ynghylch sut i ddefnyddio E-dreuliau, gweler Canllaw Defnyddwyr E-dreuliau.

Defnyddiwch y canllawiau hyn wrth hawlio treuliau teithio tra bod eich lleoliad mewn practis meddyg teulu.

 

Talu Treuliau

  • Dylai meddygon gyflwyno eu hawliadau treuliau misol heb fod yn hwyrach na 5 o’r gloch ar y 5ed o bob mis.
  • Mae’n rhaid i awdurdodwyr gymeradwyo pob hawliad heb fod yn hwyrach na 5 o’r gloch ar y 7fed o bob mis.
  • Gwneir taliadau ar y 21ain o bob mis.

 

Dilysu Treuliau

Y Bwrdd Iechyd:

  • Caiff treuliau eu dilysu gan y Gyfarwyddiaeth
  • Caiff Absenoldebau Astudio eu dilysu gan yr Adran Ôl-raddedig

Practisiau Meddyg Teulu:

  • Caiff treuliau teithio eu dilysu gan Reolwyr Practisiau
  • Caiff absenoldeb astudio ei ddilysu gan Ddeoniaeth Cymru

Bydd rhaid i PCGC gymeradwyo pob hawliad treuliau yn derfynol.

 

Costau Adleoli

Gall hyfforddeion fod yn gymwys hefyd i hawlio naill ai treuliau symud tŷ neu dreuliau am filltiroedd ychwanegol. Am y manylion llawn ynghylch costau adleoli a darpariaethau cysylltiedig ar gyfer meddygon dan hyfforddiant, gweler Polisi Cymru Gyfan. Os os angen rhagor o wybodaeth arnoch chi, cysylltwch â Thîm Gweithlu Meddygol PCGC trwy e-bostio: NWSSPSLE@wales.nhs.uk

Noder mai Gwasanaeth Cyflogres PCGC fydd yn rheoli pob hawliad.