Neidio i'r prif gynnwy

Polisïau a Gweithdrefnau

Policies and Procedures

Mae’ch cyflogaeth gyda PCGC yn amodol ar y Polisïau Personél a Chyflogaeth a’r Rheolau a’r Gweithdrefnau y mae Ymddiriedolaeth GIG Felindre wedi eu mabwysiadu’n ffurfiol. Bydd Ymddiriedolaeth GIG Felindre yn llunio ac yn gweithredu pob Polisi Personél a Chyflogaeth a phob Rheol a Gweithdrefn a bydd, trwy drafod ag undebau llafur cydnabyddedig / sefydliadau staff fel yr amlinellir yn y Polisi Cyfleusterau ar gyfer Undebau Llafur, Cymdeithasau Proffesiynol a Sefydliadau Staff, yn adolygu ac yn diwygio unrhyw bolisïau presennol yn ôl ei ddisgresiwn ynghyd â disodli unrhyw Bolisïau, Rheolau a Gweithdrefnau neu gyflwyno rhai newydd.

 

Rydym yn eich annog i ymgyfarwyddo â’r polisïau hyn.

 

Dyma’r prif bolisïau personél a chyflogaeth sydd mewn grym ar hyn o bryd:-

  • Polisi Cael Gafael ar Bensiwn y GIG ac Ymddeol
  • Polisi Talebau Gofal Plant
  • Delio ag Ymddygiad/Cymhwysedd Proffesiynol i Staff Meddygol yr Ymddiriedolaeth
  • Polisi Urddas yn y Gwaith (Cymru Gyfan)
  • Polisi a Gweithdrefn Disgyblu
  • Polisi Cam-drin Domestig
  • Cymhwysedd ar gyfer Gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd - NHS Employers
  • Polisi Egwyl o Gyflogaeth
  • Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
  • Polisi a Gweithdrefn Gweithio Hyblyg
  • Polisi Cwynion (Cymru Gyfan)
  • Polisi Mamolaeth, Mabwysiadu a Thadolaeth ac Absenoldeb Rhiant
  • Polisi a Chanllawiau Ymddangos yn y Llys (gan gynnwys Llys y Crwner)
  • Polisi Camdriniaeth gan Gydweithwyr mewn perthynas â Phlant ac Oedolion Sy’n Agored i Niwed
  • Polisi Cofrestriad Proffesiynol
  • Polisi Codi Pryderon (Chwythu’r Chwiban)
  • Polisi Adennill Gordaliadau’r Gyflogres
  • Polisi Adleoli
  • Ad-dalu Costau Symud Tŷ a Threuliau Cysylltiedig
  • Polisi Lluoedd Wrth Gefn a Mobileiddio
  • Polisi Absenoldeb Rhiant a Rennir
  • Polisi Salwch
  • Polisi Dim Ysmygu
  • Polisi Absenoldeb Arbennig (Cymru Gyfan)
  • Polisi a Gweithdrefn Camddefnyddio Sylweddau yn y Gwaith
  • Polisi Fframwaith Safonau Ymddygiad
  • Polisi Absenoldeb Astudio - Gweler Polisi Deoniaeth Cymru

 

Cysylltwch â Thîm y Gweithlu Meddygol trwy e-bostio NWSSPSLE@wales.nhs.uk os oes angen copi arnoch chi o’r polisïau uchod.