Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaethau Iechyd a Lles

Health and Wellbeing Services
Mae PCGC yn cynnig ystod o fentrau sydd ar gael i bob gweithiwr, gan gynnwys Cofrestryddion Meddyg Teulu Arbenigol.
 

Talebau Gofal Plant

Mae’r Polisi Talebau Gofal Plant isod yn cynnwys rhestr o gwestiynau cyffredin er gwybodaeth.

 

 

Polisi Talebau Gofal Plant

 

Cynllun Seiclo i’r Gwaith

Ar wahanol adegau yn ystod y flwyddyn, mae PCGC yn cynnig cyfle i weithwyr brynu beic trwy Gynllun Seiclo i’r Gwaith. Am ragor o wybodaeth ac i ganfod dyddiadau’r cynllun, e-bostiwch: michelle.richards@wales.nhs.uk.

 
 

Cynllun Prydlesu Ceir

Mewn cydweithrediad â NHS Fleet Solutions, mae PCGC yn cynnig Cynllun Prydlesu Car Trwy Aberthu Cyflog. Nod y cynllun yw rhoi’r cyfle i bob aelod o staff parhaol yn PCGC gael gafael ar gar newydd o’i ddewis am bris cystadleuol iawn, gan wneud arbedion ariannol i’r sefydliad ar yr un pryd a fydd yn cefnogi’r gwasanaethau a ddarperir i gleifion. Am ragor o wybodaeth am y Cynllun Prydlesu Ceir, gweler y cyfathrebiad isod neu e-bostiwch Michelle Richards:  michelle.richards@wales.nhs.uk.

 

 

Cynllun Prydlesu Ceir GIG Cymru

 

Iechyd a Lles

Am wybodaeth i feddygon sydd â phroblemau iechyd (Cwnsela i Feddygon), gweler Iechyd Gweithwyr Iechyd Proffesiynol Cymru.

Mae gan weithwyr PCGC hawl i’r Cynllun Cymorth i Weithwyr hefyd. Am ragor o wybodaeth am y Cynllun Cymorth i Weithwyr, cysylltwch â Thîm Gweithlu Meddygol PCGC trwy e-bostio NWSSPGPSingleLeadEmployer@wales.nhs.uk.

Mae PCGC a’ch sefydliad lletyol yn cynnig mentrau Iechyd a Lles ynghyd ag amrywiaeth o ddisgowntiau mewn siopau, bwytai ac atyniadau lleol.