Neidio i'r prif gynnwy

Contract Cyflogaeth

Contract of Employment

Mae gan feddyg ddau gontract cyflogaeth yn ystod ei gyfnod o hyfforddiant arbenigol, sef y Contract Cyflogaeth Meddygol a Deintyddol ar gyfer y cyfnod mewn ysbyty, a chontract Pwyllgor Addysg Ymarfer Cyffredinol ar gyfer y cyfnod mewn practis Meddyg Teulu. Oherwydd y gall eich trefniadau contractiol newid rhwng pob cylchdro (megis lleoliad a chyflog), cedwir yr holl wybodaeth sy’n benodol i bob lleoliad ar Flaenddalen Contract. Cewch chi flaenddalen contract newydd ar ddechrau pob cylchdro yn ystod eich cynllun hyfforddiant.

Caiff pob Cofrestrydd Meddyg Teulu Arbenigol ei gontract cyflogaeth cyn pen wyth wythnos o ddechrau ar y cynllun hyfforddiant. Caiff y rhain eu hanfon at eich cyfrif e-bost GIG felly cofiwch wirio’ch cyfrif yn rheolaidd.

Llofnodwch un copi o bob contract a’i ddychwelyd naill ai i:

 

Tîm Gweithlu Meddygol Meddygon Teulu Dan Hyfforddiant
Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru
4-5 Charnwood Court
Heol Billingsley
Parc Nantgarw
CF15 7QZ

 

neu

 

NWSSPSLE@wales.nhs.uk 

 

Isod mae rhestr o ddogfennau cyfeiriol y gallant fod yn ddefnyddiol ichi. Am ragor o wybodaeth am Gontractau Cyflogaeth, cysylltwch â Thîm y Gweithlu Meddygol trwy e-bostio: NWSSPSLE@wales.nhs.uk.

 

pdf icon

 

Canllaw Euraidd

 

pdf icon

 

Telerau ac Amodau Meddygol a Deintyddol