Mae’ch cyflogaeth gyda PCGC yn amodol ar y Polisïau Personél a Chyflogaeth a’r Rheolau a’r Gweithdrefnau y mae Ymddiriedolaeth GIG Felindre wedi eu mabwysiadu’n ffurfiol. Bydd Ymddiriedolaeth GIG Felindre yn llunio ac yn gweithredu pob Polisi Personél a Chyflogaeth a phob Rheol a Gweithdrefn a bydd, trwy drafod ag undebau llafur cydnabyddedig / sefydliadau staff fel yr amlinellir yn y Polisi Cyfleusterau ar gyfer Undebau Llafur, Cymdeithasau Proffesiynol a Sefydliadau Staff, yn adolygu ac yn diwygio unrhyw bolisïau presennol yn ôl ei ddisgresiwn ynghyd â disodli unrhyw Bolisïau, Rheolau a Gweithdrefnau neu gyflwyno rhai newydd.
Rydym yn eich annog i ymgyfarwyddo â’r polisïau hyn.
Dyma’r prif bolisïau personél a chyflogaeth sydd mewn grym ar hyn o bryd:-
- Polisi Cael Gafael ar Bensiwn y GIG ac Ymddeol
- Polisi Talebau Gofal Plant
- Delio ag Ymddygiad/Cymhwysedd Proffesiynol i Staff Meddygol yr Ymddiriedolaeth
- Polisi Urddas yn y Gwaith (Cymru Gyfan)
- Polisi a Gweithdrefn Disgyblu
- Polisi Cam-drin Domestig
- Cymhwysedd ar gyfer Gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd - NHS Employers
- Polisi Egwyl o Gyflogaeth
- Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
- Polisi a Gweithdrefn Gweithio Hyblyg
- Polisi Cwynion (Cymru Gyfan)
- Polisi Mamolaeth, Mabwysiadu a Thadolaeth ac Absenoldeb Rhiant
- Polisi a Chanllawiau Ymddangos yn y Llys (gan gynnwys Llys y Crwner)
- Polisi Camdriniaeth gan Gydweithwyr mewn perthynas â Phlant ac Oedolion Sy’n Agored i Niwed
- Polisi Cofrestriad Proffesiynol
- Polisi Codi Pryderon (Chwythu’r Chwiban)
- Polisi Adennill Gordaliadau’r Gyflogres
- Polisi Adleoli
- Ad-dalu Costau Symud Tŷ a Threuliau Cysylltiedig
- Polisi Lluoedd Wrth Gefn a Mobileiddio
- Polisi Absenoldeb Rhiant a Rennir
- Polisi Salwch
- Polisi Dim Ysmygu
- Polisi Absenoldeb Arbennig (Cymru Gyfan)
- Polisi a Gweithdrefn Camddefnyddio Sylweddau yn y Gwaith
- Polisi Fframwaith Safonau Ymddygiad
- Polisi Absenoldeb Astudio - Gweler Polisi Deoniaeth Cymru
Cysylltwch â Thîm y Gweithlu Meddygol trwy e-bostio NWSSPSLE@wales.nhs.uk os oes angen copi arnoch chi o’r polisïau uchod.