Er mwyn dechrau gweithio mewn practis meddyg teulu, mae’n rhaid bod y Meddyg wedi ei gofrestru ar Restr Cyflawnwyr Meddygol. Yn rhan o’r trefniant Cyflogwr Arweiniol, caiff pob gwiriad cyflogaeth a wnaed gan PCGC cyn i Gofrestryddion Meddyg Teulu Arbenigol ddechrau ar eu cylchdro ei ddefnyddio wrth ddechrau eu proses gofrestru ar Restr Cyflawnwyr Meddygol. Bydd angen i’r Cofrestrydd Meddyg Teulu Arbenigol lenwi ffurflen gais er mwyn cwblhau’r cais i ymuno â Rhestr Cyflawnwyr Meddygol.
Am ragor o wybodaeth am Bractisiau Meddyg Teulu a Rhestr Cyflawnwyr Meddygol, gweler y wybodaeth ar wefan Gwasanaethau Gofal Sylfaenol.
O dan y trefniant Cyflogwr Arweiniol, bydd y Cofrestrydd Meddyg Teulu Arbenigol wedi ei indemnio gan Gronfa Risg Cymru hyd ddiwedd ei gyflogaeth. Fodd bynnag, cyfrifoldeb y Cofrestrydd Meddyg Teulu Arbenigol yw sicrhau bod ganddo indemniad priodol ar gyfer achosion troseddol a gweithredoedd Samariad Da. Yr elfen “top-up” yw’r enw ar hyn.
Mae hyn yn ostyngiad sylweddol yn y costau y bydd rhaid ichi eu talu, a dylai’r costau fod rhwng tua £45 a £110. Gallwch chi adennill y costau hyn trwy E-dreuliau yn ystod eich cylchdroeon ymarfer.
Wrth gysylltu â’ch darparwr, mae’n hanfodol eich bod yn ei hysbysu eich bod yn gweithio i PCGC o dan y trefniant Cyflogwr Arweiniol Sengl ar gyfer Meddygon Teulu dan hyfforddiant, a’ch bod o ganlyniad wedi’ch indemnio gan Gronfa Risg Cymru.