Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau yn y Gymraeg.
Ni fydd ymgysylltu gyda ni yn y Gymraeg yn arwain at oedi.
Mae’r Cod Ymarfer hwn wedi ei lunio gan Lywodraeth Cymru er mwyn cefnogi datblygiad cadwyni cyflenwi mwy moesegol i ddarparu contractau i sector cyhoeddus Cymru a sefydliadau trydydd sector sy’n derbyn arian cyhoeddus.
Mae tystiolaeth yn dangos bod arferion cyflogaeth anfoesegol ar waith mewn cadwyni cyflenwi ledled Cymru a thu hwnt.
Nod y Cod Ymarfer yw sicrhau bod gweithwyr yng nghadwyni cyflenwi’r sector cyhoeddus wedi eu cyflogi yn foesegol ac mewn modd sy’n cydymffurfio â llythyren ac ysbryd deddfau’r DU a’r UE a deddfau rhyngwladol.
Mae’r cod yn mynd i’r afael â’r materion cyflogaeth canlynol: