Neidio i'r prif gynnwy

Cytundeb Indemniad Meistr GIG Cymru

NHS Wales Master Indemnity Agreement (MIA)

Diweddariad am Gytundeb Indemniad Meistr GIG Cymru

Mae Gwasanaethau Caffael GIG Cymru wedi bod yn cynnal trafodaethau cadarnhaol yn ddiweddar ag Adran Iechyd Lloegr am gyflwyno Cytundeb Indemniad Meistr (CIM) gwahanol ond ategol yn GIG Cymru. Bydd y CIM hwn yn disodli’r hen system a aeth yn ddiangen yn sgil adolygiad mawr Adran Iechyd Lloegr o’i dull hithau (tan hynny roedd y ddwy system yn debyg iawn iawn o ran dull, dogfennaeth a chyflenwyr). Effaith hynny oedd bod CIM y GIG yn hen ac yn ddiwerth.

Mae Gwasanaeth Caffael GIG Cymru wrthi’n cofnodi pob un o’r darparwyr CIM sydd ar restr Adran Iechyd Lloegr ar gofrestr newydd GIG Cymru. Mae hwn yn waith mawr ac mae angen i ryw 700 o gyflenwyr lofnodi set newydd o ddogfennau.

Rydym wedi cynnwys y dogfennau canlynol at eich sylw:

  • Y Gofrestr bresennol
  • Telerau ac Amodau’r CIM
  • Cytundeb Penodol CIM (MIA call-off agreement)
  • Canllawiau’r CIM

Mewn amgylchiadau eithriadol (e.e. os yw’r sefyllfa yn un frys ac nid yw’n bosibl i’r cyflenwr lofnodi Cytundeb Indemniad Meistr cyffredinol â GIG Cymru cyn darparu’r offer, neu os nad yw Cofrestr y Cytundebau Indemniad Meistr yn dangos bod gan gyflenwr yswiriant cyfredol), fe all Awdurdod lofnodi Cytundeb Penodol CIM â chyflenwr, ond ni ddylai ond gwneud hyn ar yr amod ei fod wedi gwneud y gwiriadau angenrheidiol ei hun.

Byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am hyn ar y wefan hon. Diolch.

Os oes unrhyw ymholiadau gennych, cysylltwch yn y lle cyntaf â MIA.Wales@wales.nhs.uk Ffon: 02920 903841

Dogfennau