Neidio i'r prif gynnwy

Rhyddid Gwybodaeth a Chyhoeddi Gwybodaeth

Freedom of Information & Publication of Information

Os hoffech wneud cais yn unol â’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth neu’r Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol, CLICIWCH YMA am arweiniad pellach.

Yn unol â dogfen ddiffinio Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth ar gyfer cyrff iechyd yng Nghymru, rydym yn darparu’r wybodaeth ganlynol i’r cyhoedd mewn perthynas â’n contractau:

Ar gyfer contractau lle mae gwerth y busnes yn uwch na £25k, rhoddir hysbysiad ar y rhestr cyfleoedd trwy GwerthwchiGymru, sy’n hysbysu cyflenwyr cofrestredig yn awtomatig ynghylch ein contractau nesaf. Yn ogystal, rhoddir hysbysiad ar ôl dyfarnu’r contract yn llwyddiannus. Dilynwch y ddolen isod i gael mynediad i wefan GwerthwchiGymru, lle gallwch weld yr hysbysiadau sydd wedi’u cyhoeddi.

 

Pan roddir gwerth ar gontractau sy’n uwch na throthwyon caffael y Comisiwn Ewropeaidd, bydd y rhain yn ddarostyngedig i reoliadau caffael yr Undeb Ewropeaidd, sy’n mynnu ein bod yn hysbysebu’r contractau nesaf yng Nghyfnodolyn Swyddogol yr Undeb Ewropeaidd. Rydym hefyd yn cyhoeddi hysbysiad ar ôl dyfarnu’r contract yn llwyddiannus. Dilynwch y ddolen isod i ddod o hyd i wefan Cyfnodolyn Swyddogol yr Undeb Ewropeaidd, lle cewch fanylion ynghylch yr hysbysiadau sydd wedi’u cyhoeddi.

http://ted.europa.eu/TED/main/HomePage.do

Os ydych yn dymuno gweld ein rhaglen gontractau CLICIWCH YMA am wybodaeth bellach