Datblygwyd Adnodd COVID-19 Llesiant Staff GIG Cymru gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru er mwyn i staff y GIG ei ddefnyddio a dysgu rhagor am sut y gallwn ofalu amdanom ein hunain. Defnyddiwch hwn i ddysgu rhagor am yr adnoddau cymorth amrywiol sydd ar gael.
Mae PCGC yn cymryd iechyd a llesiant ei staff o ddifrif ac fel sefydliad y bydd bob amser rhoi cymorth, diogelwch a chysur i chi, a fydd yn eich galluogi i feithrin a bod yn hapus yn eich gweithle - yn ogystal â gartref.
Ydych chi’n teimlo dan straen, yn orbryderus neu’n isel eich ysbryd? Os felly, rydyn ni yma i helpu.
Rydyn ni am i chi deimlo eich bod chi'n cael cefnogaeth ond, yn bwysicach fyth, eich bod yn gwybod beth i'w wneud a sut i gael help os ydych chi'n pryderu am eich llesiant.
Isod, fe welwch cymorth ar gyfer amrywiol gyflyrau a phryderon iechyd meddwl. Bydd pob opsiwn yn eich arwain at rwydweithiau cymorth, cysylltiadau, help a chyngor.
Nid yw salwch meddwl yn rhwystr i weithio'n effeithiol ac mae llawer o bobl yn llwyddo ac yn ffynnu yn eu rolau.
Mae Cymdeithas Seicolegol Prydain wedi datblygu canllawiau ar gyfer arweinwyr a rheolwyr y bydd angen iddynt ystyried anghenion llesiant yr holl staff clinigol ac anghlinigol ar yr adeg hon.
Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru wedi datblygu adnodd i’n helpu i Arwain gyda Thosturi yn ystod yr adeg hon.
Mae Academi Wales wedi datblygu nifer o adnoddau yn ymwneud â chadernid ac arweinyddiaeth yn yr hinsawdd gyfredol.
https://www.nhs.uk/oneyou/every-mind-matters/
https://www.leapers.co/resources/little-guides/coronavirus-working-from-home
https://www.bbc.co.uk/news/business-51868894
Mae MIND wedi datblygu rhaglen newydd o’r enw Monitro Gweithredol. Mae’r rhaglen hunangymorth chwe wythnos RAD AC AM DDIM ar gael i unrhyw un yng Nghymru sy’n 18 mlwydd oed neu’n hŷn. Mae’n dysgu pobl i gael gwell dealltwriaeth o’u hemosiynau, o orbryder ac iselder i alar, colled ac unigrwydd: https://www.mind.org.uk/get-involved/active-monitoring-sign-up/
Gall eich Cyfaill Cefnogol neu eich Swyddog Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl eich helpu i fynd trwy’r rhain a dod o hyd i’r adnodd mwyaf addas i chi. Gweler isod y gefnogaeth sydd ar gael:
Mae SilverCloud ar gael i’ch cefnogi trwy fynd at SilverCloud. Mae SilverCloud yn cynnig rhaglenni ar-lein er mwyn eich helpu i leddfu eich lefelau straen, eich helpu i gysgu’n well neu i adeiladu cadernid, gan eich helpu i gadw eich meddwl yn iach yn ystod yr adeg heriol hon. Gallwch gael rhagor o wybodaeth ar ein tudalen SilverCloud neilltuedig.
Mae hyfforddiant ymwybyddiaeth o hunanladdiad yn darparu hyfforddiant a chyngor manwl ar sut i ymdrin â sefyllfa o argyfwng. Bydd y cwrs yn cymryd oddeutu 20 munud i’w gwblhau. Ei nod yw rhoi'r sgiliau a'r hyder i chi i helpu rhywun a allai fod yn ystyried lladd ei hun. Mae'n canolbwyntio ar chwalu stigma ac annog sgyrsiau agored. Dilynwch y ddolen isod os hoffech gymryd rhan:
Croeso i’r Zero Suicide Alliance (ZSA)
Mae'r gwasanaeth cyfrinachol hwn a ddarperir gan Remploy ac a ariennir gan yr Adran Gwaith a Phensiynau ar gael yn rhad ac am ddim i unrhyw weithwyr ag iselder ysbryd, gorbryder, sydd dan straen neu sydd â materion iechyd meddwl eraill sy'n effeithio ar eu gwaith.
Mae eu cynghorwyr arbenigol yn darparu:
Gallwch ein ffonio ar 0300 456 8114 neu sgwrsio â ni ar-lein gan ddefnyddio'r botwm sgwrsio porffor ar y dudalen hon, o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9am a 5pm.
Fel arall, anfonwch e-bost at Remploy gan ddefnyddio'r ddolen isod neu cysylltwch â Kerry Flower-Fitzpatrick. Kerry.flower-fitzpatrick@wales.nhs.uk
Gall y sefydliadau canlynol gynnig cyngor a chefnogaeth hefyd:
Llinell Gymorth – 03444 775 774
Gwasanaeth Neges Destun – 07537 416 905
Mae Anxiety UK yn cynnig rhwydwaith cymorth coronafeirws, sy'n eich helpu i ddeall eich pryder trwy'r cyfnod anodd hwn ac mae’n cynnig cefnogaeth a chyngor pe bai unrhyw un eu hangen.
Llinell Wybodaeth Mind – 0300 123 3393
Mae tîm Llinell Wybodaeth MIND yn darparu cefnogaeth a gwybodaeth ar ystod o gyflyrau iechyd meddwl; sut a ble i gael help; meddyginiaeth a thriniaethau amgen. Hollol gyfrinachol.
Rhadffôn – 116 123
Mae llinell gymorth y Samariaid yn wasanaeth 24 awr sy'n cynnig clust i wrando. Byddant yn siarad â chi am sut rydych chi'n teimlo ac yn eich helpu i ddod o hyd i gefnogaeth leol. Hollol gyfrinachol.
.
SANEline – 0300 304 7000
Ar agor 4.30pm tan 10.30pm bob dydd
Mae SANEline yn wasanaeth y tu allan i oriau sy'n cynnig help a chefnogaeth emosiynol i unrhyw un a allai fod yn profi cyflwr iechyd meddwl, gan gynnwys eu teuluoedd. Gallwch estyn allan mewn amgylchedd empathig, heb feirniadaeth. Hollol gyfrinachol.
Rhadffôn – 0300 5000 927
Mae Rethink yn helpu pobl sy'n cael eu heffeithio gan gyflyrau iechyd meddwl. Byddant yn cynnig cyfle i siarad ac efallai y byddant yn eich cynghori ar ba gymorth sydd ar gael. Hollol gyfrinachol.
Anfonwch neges destun gan gynnwys y gair SHOUT at 85258
SHOUT yw gwasanaeth rhad ac am ddim cyntaf y DU i unrhyw un a allai fod mewn argyfwng ar unrhyw bryd, yn unrhyw le.
Gallwch ei ddefnyddio os byddwch yn ei chael hi’n anodd ac angen rhywfaint o help. Hollol gyfrinachol.
Mae “Mental Health at Work” yn borth ar-lein sy’n cynnig mynediad eang at adnoddau, cymorth a gwybodaeth.
https://www.mentalhealthatwork.org.uk/
Gallwn brofi unigrwydd ar unrhyw bwynt yn ein bywydau. Mae “Let’s Talk Loneliness” yn adnodd ar-lein sy’n dwyn ynghyd sefydliadau, adnoddau a straeon sydd â’r un nod, sef cael mwy o bobl i siarad am unigrwydd.