Neidio i'r prif gynnwy

Gofalu am eich llesiant meddyliol

Mae’r wybodaeth hon yn gywir o 20.06.2022

Datblygwyd Adnodd COVID-19 Llesiant Staff GIG Cymru gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru er mwyn i staff y GIG ei ddefnyddio a dysgu rhagor am sut y gallwn ofalu amdanom ein hunain. Defnyddiwch hwn i ddysgu rhagor am yr adnoddau cymorth amrywiol sydd ar gael.

 

Mae PCGC yn cymryd iechyd a llesiant ei staff o ddifrif ac fel sefydliad y bydd bob amser rhoi cymorth, diogelwch a chysur i chi, a fydd yn eich galluogi i feithrin a bod yn hapus yn eich gweithle - yn ogystal â gartref.

Ydych chi’n teimlo dan straen, yn orbryderus neu’n isel eich ysbryd? Os felly, rydyn ni yma i helpu.

Rydyn ni am i chi deimlo eich bod chi'n cael cefnogaeth ond, yn bwysicach fyth, eich bod yn gwybod beth i'w wneud a sut i gael help os ydych chi'n pryderu am eich llesiant.

Isod, fe welwch cymorth ar gyfer amrywiol gyflyrau a phryderon iechyd meddwl. Bydd pob opsiwn yn eich arwain at rwydweithiau cymorth, cysylltiadau, help a chyngor.

​Nid yw salwch meddwl yn rhwystr i weithio'n effeithiol ac mae llawer o bobl yn llwyddo ac yn ffynnu yn eu rolau. 

 

 

Grŵp Dynion

A oes gennych gyflwr iechyd meddwl megis gorbryder, iselder, neu hwyliau isel? Yn aml, ceisio cymorth yw’r cam cyntaf tuag at wella a chadw’n iach, ond gall fod yn anodd gwybod sut i ddechrau neu ble i droi.

Mae’r Grŵp Dynion yn rhoi cyfle i aelodau gwrywaidd o staff a’r rhai sy’n nodi eu bod yn ddynion ddod at ei gilydd mewn amgylchedd diogel a chefnogol, llawn ymddiriedaeth.

 

Grŵp Dynion (pdf, 318kb)

 

Canllawiau ar gyfer Arweinwyr a Rheolwyr

Mae Cymdeithas Seicolegol Prydain wedi datblygu canllawiau ar gyfer arweinwyr a rheolwyr y bydd angen iddynt ystyried anghenion llesiant yr holl staff clinigol ac anghlinigol ar yr adeg hon.

Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru wedi datblygu adnodd i’n helpu i Arwain gyda Thosturi yn ystod yr adeg hon.

Mae Academi Wales wedi datblygu nifer o adnoddau yn ymwneud â chadernid ac arweinyddiaeth yn yr hinsawdd gyfredol.

 

Hunanofal i staff y GIG – casglwyd gan Dr Julie Highfield, Seicolegydd Ymgynghorol

  • Yn bwysicaf oll, mae hyn yn ddigynsail: Mae’n iawn i beidio â bod yn iawn
  • Ceisiwch gael yr wybodaeth ddiweddaraf ar amseroedd penodol yn ystod y dydd, unwaith neu ddwywaith Gall y llif sydyn a chyson o adroddiadau newyddion beri i unrhyw un deimlo’n bryderus. Gallwch ddod o hyd i’r ffeithiau yn https://icc.gig.cymru/pynciau/coronafeirws/ neu www.gov.uk/coronavirus
  • Rydych chi a nifer o’ch cydweithwyr yn debygol o deimlo dan straen. Mae’n ddigon cyffredin teimlo fel hyn yn y sefyllfa bresennol. Nid yw teimlo dan straen yn golygu nad ydych yn gallu gwneud eich gwaith neu eich bod yn wan.
  • Mae rheoli eich straen a’ch llesiant seicogymdeithasol yn ystod y cyfnod hwn yr un mor bwysig â rheoli eich iechyd corfforol.
  • Gofalwch am eich anghenion sylfaenol a sicrhewch eich bod yn gorffwys a chael seibiant yn ystod gwaith neu rhwng sifftiau, bwytewch ddigon o fwyd iach, gwnewch weithgarwch corfforol, ac arhoswch mewn cysylltiad â theulu a ffrindiau.
  • Mae hon yn sefyllfa ddigynsail. Peidiwch â thrio dysgu strategaethau newydd, defnyddiwch y rhai rydych wedi’u defnyddio yn y gorffennol i reoli adegau o straen.
  • Mae hwn yn debygol o fod yn farathon – ewch gam ar y tro.
  • Ystyriwch eich lefelau egni seicolegol – bydd rhaid i chi “lenwi’r tanc” ar ôl ei “wagio”
  • Byddwch yn ymwybodol o’ch gallu – mae’n gallu  cymryd mwy o amser i ystyried a gwneud synnwyr o bethau os ydych chi’n teimlo wedi’ch llethu gan waith.
  • ARHOSWCH, ANADLWCH, yna MEDDYLIWCH – mae arafu’r anadl yn arafu’r cylch straen ac yn ail-ymgysylltu eich llabed blaen – yna gallwch feddwl.
  • Dylech osgoi defnyddio strategaethau ymdopi nad ydynt yn helpu, megis tybaco, alcohol neu gyffuriau eraill.
  • Yn anffodus, gall rhai gweithwyr gael eu hanwybyddu gan eu teulu neu’r gymuned oherwydd stigma neu ofn. Os yw’n bosibl, cadwch mewn cysylltiad â’ch anwyliaid, mae defnyddio dulliau digidol yn un ffordd o gadw mewn cyswllt. Trowch at eich cydweithwyr neu arweinydd tîm am gymorth cymdeithasol – efallai bod eich cydweithwyr yn cael profiadau tebyg i chi.
  • Ceisiwch beidio â defnyddio iaith ddramatig a allai beri i’ch cydweithwyr fynd i banig.

 

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynnig y cyngor canlynol:

Yn naturiol, gallai cadw pellter cymdeithasol fod yn ddiflas neu’n rhwystredig i chi.  Gallai eich hwyl neu’ch teimladau gael eu heffeithio a gallai wneud i chi deimlo’n isel, yn bryderus neu achosi problemau cysgu a gallech weld eisiau bod yn yr awyr agored gyda phobl eraill.

Ar adegau fel hyn, gall fod yn hawdd arfer â phatrymau ymddygiad afiach a allai wneud i chi deimlo’n waeth yn y pen draw.  Mae pethau syml y gallwch chi eu gwneud a allai helpu, er mwyn sicrhau eich bod yn defnyddio’ch corff a’ch meddwl yn ystod y cyfnod hwn, fel:

  • Chwilio am syniadau ar gyfer ymarfer corff, y mae modd i chi eu gwneud gartref ar wefan y GIG
  • Treulio amser yn gwneud y pethau rydych chi’n eu mwynhau – gallai hyn gynnwys darllen, coginio, diddordebau eraill yn y tŷ neu wrando ar eich hoff sianel radio neu wylio eich hoff raglenni teledu
  • Ceisio bwyta prydau cytbwys ac iach, yfed digon o ddŵr, gwneud ymarfer corff yn rheolaidd a cheisio osgoi ysmygu, alcohol a chyffuriau
  • Cadw eich ffenestri ar agor er mwyn cael awyr iach, a chael golau naturiol os gallwch chi, neu fynd allan i’r ardd Gallwch hefyd fynd allan i gerdded neu wneud ymarfer corff os ydych yn aros dros 2 fetr oddi wrth bobl eraill

Gallwch hefyd fynd allan i gerdded neu wneud ymarfer corff os ydych yn aros dros 2 fetr oddi wrth bobl eraill.

 

Every Mind Matters y GIG

https://www.nhs.uk/oneyou/every-mind-matters/

 

Awgrymiadau ar weithio’n dda gartref

https://www.leapers.co/resources/little-guides/coronavirus-working-from-home

https://www.bbc.co.uk/news/business-51868894

 

Gwasanaeth Llesiant COVID-19 PCGC

Bellach, rydym wedi lansio’r Gwasanaeth Llesiant COVID-19 PCGC newydd. Mae hwn yn cynnwys Gwasanaeth Cefnogaeth gan Gymheiriaid, Gwasanaeth Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl a mynediad at ystod eang o adnoddau ychwanegol.

Gwasanaeth Cefnogaeth gan Gymheiriaid – nod y rhwydwaith hwn yw cefnogi ein holl gydweithwyr ar unrhyw lefel ac mewn unrhyw rôl. Nod y rhwydwaith yw galluogi cydweithwyr i ddod o hyd i rywun a fydd yn gwrando arnynt ac a fydd yn cael sgwrs addfwyn â nhw er mwyn eu helpu i ddeall sut maen nhw’n teimlo. Bydd cyfrinachedd yn cael ei gynnal yn gyfan gwbl ac ni fydd unrhyw farnu, a nod hyn yw helpu cydweithwyr i deimlo fel eu bod yn cael eu clywed ac i deimlo fel nad ydynt ar eu pennau eu hunain.

Byddwn yn postio yma yn rheolaidd er mwyn rhoi gwybod i chi pwy sydd ar gael bob dydd. Anfonir yr wybodaeth hon trwy e-byst rheolaidd Cyfathrebu PCGC hefyd.

Mae gennym gyfeiriad e-bost newydd nwssp.healthandwellbeing@wales.nhs.uk, sydd ar gael i chi gysylltu ag ef i gael cefnogaeth a gwybodaeth. Rydym yma os ydych chi am drafod eich sefyllfa yn gyfrinachol a gallwn ddarparu gwybodaeth i chi am yr adnoddau iechyd a llesiant sydd ar gael.

 

  Amser Enw cyswllt Manylion cyswllt

1 Hydref

9am-11am

Alwyn Hockin

01792 860487

 4 Hydref

1pm-3pm

Nigel Hughes

01443848635 or Teams

 5 Hydref

12:30pm-1:30pm

Natalie Hole

02920903807 or Teams

 6 Hydref

2:30pm-4:30pm

Nigel Hughes

01443848635 or Teams

7 Hydref

1:30pm-3:30pm

Kerry Flower-Fitzpatrick

07799342040 or Teams

 8 Hydref

9am-11am

Julia Denyer

02920903817 or Teams

11 Hydref

2pm-4pm

Emma Pascoe

01443848601 or Teams

 12 Hydref

9am-11am

Michelle Richards

01443848605 or Teams

 13 Hydref

2:30pm-4:30pm

Joshua Morgan

01792 860599 or Teams

 14 Hydref

9am-11am

Carolyn Isles

07523870170 or Teams

 15 Hydref

1:30pm-3:30pm

Nigel Hughes

01443848635 or Teams

18 Hydref

4pm-6pm

Helen Higgs

01495300846 or Teams

 19 Hydref

9:30am-11:30am

Kerry Flower-Fitzpatrick

07799342040 or Teams

 20 Hydref

9am-11am

Michelle Richards

01443848605 or Teams

 21 Hydref

10am-12pm

Matthew James

01495300792 or Teams

 22 Hydref

8:30am-10:30am

Alwyn Hockin

01792 860487

 25 Hydref

10am-12pm

Carolyn Isles

07523870170 or Teams

 26 Hydref

2pm-4pm

Carolyn Isles

07523870170 or Teams

 27 Hydref

2pm-4pm

Julia Denyer

02920903817 or Teams

 28 Hydref

4pm-6pm

Helen Higgs

01495300846 or Teams

29 Hydref

9:30am-11:30am

Matthew James

01495300792 or Teams

 

Cymorth Iechyd Meddwl PCGC

Mae PCGC wedi hyfforddi nifer o Swyddogion Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl (MHFAs) sydd ar gael i ddarparu cefnogaeth ac arweiniad i'r rhai sydd angen cymorth. Cofiwch y gallai rhai o'r MHFAs hyn fod yn gweithio'n hyblyg oherwydd yr amgylchiadau presennol ac felly os ydych chi'n profi anhawster wrth geisio cysylltu ag MHFA, cysylltwch ag nwssp.workforce@wales.nhs.uk

 

MIND a Monitro Gweithredol

Mae MIND wedi datblygu rhaglen newydd o’r enw Monitro Gweithredol. Mae’r rhaglen hunangymorth chwe wythnos RAD AC AM DDIM ar gael i unrhyw un yng Nghymru sy’n 18 mlwydd oed neu’n hŷn. Mae’n dysgu pobl i gael gwell dealltwriaeth o’u hemosiynau, o orbryder ac iselder i alar, colled ac unigrwydd: https://www.mind.org.uk/get-involved/active-monitoring-sign-up/ 

 

Gwasanaethau Allanol

Gall eich Cyfaill Cefnogol neu eich Swyddog Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl eich helpu i fynd trwy’r rhain a dod o hyd i’r adnodd mwyaf addas i chi. Gweler isod y gefnogaeth sydd ar gael:

 

SilverCloud

Mae SilverCloud ar gael i’ch cefnogi trwy fynd at SilverCloud. Mae SilverCloud yn cynnig rhaglenni ar-lein er mwyn eich helpu i leddfu eich lefelau straen, eich helpu i gysgu’n well neu i adeiladu cadernid, gan eich helpu i gadw eich meddwl yn iach yn ystod yr adeg heriol hon. Gallwch gael rhagor o wybodaeth ar ein tudalen SilverCloud neilltuedig.

 

Hyfforddiant Ymwybyddiaeth o Hunanladdiad

 Mae hyfforddiant ymwybyddiaeth o hunanladdiad yn darparu hyfforddiant a chyngor manwl ar sut i ymdrin â sefyllfa o argyfwng. Bydd y cwrs yn cymryd oddeutu 20 munud i’w gwblhau. Ei nod yw rhoi'r sgiliau a'r hyder i chi i helpu rhywun a allai fod yn ystyried lladd ei hun. Mae'n canolbwyntio ar chwalu stigma ac annog sgyrsiau agored. Dilynwch y ddolen isod os hoffech gymryd rhan:

Croeso i’r Zero Suicide Alliance (ZSA)

 

Remploy

Mae'r gwasanaeth cyfrinachol hwn a ddarperir gan Remploy ac a ariennir gan yr Adran Gwaith a Phensiynau ar gael yn rhad ac am ddim i unrhyw weithwyr ag iselder ysbryd, gorbryder, sydd dan straen neu sydd â materion iechyd meddwl eraill sy'n effeithio ar eu gwaith. 

Mae eu cynghorwyr arbenigol yn darparu:

  • Cymorth iechyd meddwl am naw mis wedi'i deilwra sy'n canolbwyntio ar waith
  • Strategaethau ymdopi addas
  • Cynllun cymorth i’w cadw yn y gwaith neu i’w helpu i ddychwelyd i'r gwaith
  • Syniadau ar gyfer addasiadau i’r gweithle i’w helpu i gyflawni a chadw eu swyddi
  • Cyngor ymarferol i gefnogi'r rhai sydd â chyflwr iechyd meddwl 

Gallwch ein ffonio ar 0300 456 8114 neu sgwrsio â ni ar-lein gan ddefnyddio'r botwm sgwrsio porffor ar y dudalen hon, o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9am a 5pm.  

Fel arall, anfonwch e-bost at Remploy gan ddefnyddio'r ddolen isod neu cysylltwch â Kerry Flower-Fitzpatrick. Kerry.flower-fitzpatrick@wales.nhs.uk

 

 

Mae’r Rhaglen Gymorth i Weithwyr yn wasanaeth cymorth neilltuedig cwnsela a gwybodaeth gyfrinachol ar gyfer yr holl staff, sy’n rhoi cymorth cyfrinachol ag unrhyw faterion gwaith, personol neu deuluol. Gallwch gysylltu â’r Rhaglen Gymorth i Weithwyr ar unrhyw adeg o’r dydd neu’r nos i gael mynediad at weithiwr proffesiynol i gael cefnogaeth, gan gynnwys gwybodaeth ffôn, taflenni ffeithiau, pecynnau gwybodaeth a chwnsela tymor byr. Mae’r gwasanaeth ar gael 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos.

Ffôn: 0800 2434 58

SMS (i gael rhywun i’ch ffonio’n ôl): 07909 341 229

E-bost: assistance@workplaceoptions.com

Gwefan: www.workplaceoptions.com

 

Gall y sefydliadau canlynol gynnig cyngor a chefnogaeth hefyd:

 

Llinell Gymorth – 03444 775 774

Gwasanaeth Neges Destun – 07537 416 905

Mae Anxiety UK yn cynnig rhwydwaith cymorth coronafeirws, sy'n eich helpu i ddeall eich pryder trwy'r cyfnod anodd hwn ac mae’n cynnig cefnogaeth a chyngor pe bai unrhyw un eu hangen.

https://www.anxietyuk.org.uk/

Llinell Wybodaeth Mind 0300 123 3393

 

Mae tîm Llinell Wybodaeth MIND yn darparu cefnogaeth a gwybodaeth ar ystod o gyflyrau iechyd meddwl; sut a ble i gael help; meddyginiaeth a thriniaethau amgen. Hollol gyfrinachol.

https://www.mind.org.uk/information-support/

 

Rhadffôn 116 123

Mae llinell gymorth y Samariaid yn wasanaeth 24 awr sy'n cynnig clust i wrando. Byddant yn siarad â chi am sut rydych chi'n teimlo ac yn eich helpu i ddod o hyd i gefnogaeth leol. Hollol gyfrinachol.

.

https://www.samaritans.org/

SANEline 0300 304 7000

​Ar agor 4.30pm tan 10.30pm bob dydd

​Mae SANEline yn wasanaeth y tu allan i oriau sy'n cynnig help a chefnogaeth emosiynol i unrhyw un a allai fod yn profi cyflwr iechyd meddwl, gan gynnwys eu teuluoedd. Gallwch estyn allan mewn amgylchedd empathig, heb feirniadaeth. Hollol gyfrinachol.

http://www.sane.org.uk/what_we_do/support/helpline/

 

Rhadffôn 0300 5000 927

​Mae Rethink yn helpu pobl sy'n cael eu heffeithio gan gyflyrau iechyd meddwl. Byddant yn cynnig cyfle i siarad ac efallai y byddant yn eich cynghori ar ba gymorth sydd ar gael. Hollol gyfrinachol.

https://www.rethink.org/

Anfonwch neges destun gan gynnwys y gair SHOUT at 85258

SHOUT yw gwasanaeth rhad ac am ddim cyntaf y DU i unrhyw un a allai fod mewn argyfwng ar unrhyw bryd, yn unrhyw le.

​Gallwch ei ddefnyddio os byddwch yn ei chael hi’n anodd ac angen rhywfaint o help. Hollol gyfrinachol.

https://www.giveusashout.org/

 

Mae “Mental Health at Work” yn borth ar-lein sy’n cynnig mynediad eang at adnoddau, cymorth a gwybodaeth. 

https://www.mentalhealthatwork.org.uk/

 

Gallwn brofi unigrwydd ar unrhyw bwynt yn ein bywydau. Mae “Let’s Talk Loneliness” yn adnodd ar-lein sy’n dwyn ynghyd sefydliadau, adnoddau a straeon sydd â’r un nod, sef cael mwy o bobl i siarad am unigrwydd.

 

Rhannu: