Cyfeirio at grwner
Mae COVID-19 yn glefyd sy'n bodoli’n naturiol ac felly mae'n gallu bod yn achos marwolaeth naturiol. Mae marwolaeth sydd â ffactorau ychwanegol yn golygu bod angen cyfeirio’r farwolaeth at y crwner - er enghraifft lle nad yw'r achos yn glir, neu lle mae ffactorau perthnasol eraill. Efallai y bydd achosion hefyd lle gallai marwolaeth a fyddai fel arall yn cael ei hystyried i fod o ganlyniad i achosion naturiol yn cael ei hystyried yn annaturiol.
Mae marwolaethau y dylid adrodd amdanynt yn cynnwys:
Mae'r Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi diwygio'r rheoliadau hysbysu marwolaeth - pryd i gyfeirio marwolaeth at y Crwner yn ystod pandemig COVID-19
Mae'r Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi diwygio'r rheoliadau hysbysu marwolaeth - pryd i gyfeirio marwolaeth at y Crwner yn ystod pandemig COVID-19
Y nod ddylai fod y dylid delio â phob marwolaeth o ganlyniad i COVID-19 nad oes angen ei chyfeirio at y crwner yn ôl y gyfraith trwy'r broses Tystysgrif Feddygol o Achos Marwolaeth. Mae'r Prif Grwner a'r Archwilydd Meddygol Cenedlaethol yn cytuno â hyn yn llwyr - gellir dod o hyd i ganllawiau llawn y Prif Grwner yma:
Mae'n bwysig cofio ystyried galwedigaeth unigolyn pan fo'r farwolaeth yn gysylltiedig â COVID-19. Os oes achos i amau bod yr unigolyn wedi cael y salwch trwy amlygiad yn ymwneud â'i alwedigaeth, dylid hysbysu'r crwner am y farwolaeth. Gellir gweld canllawiau'r Prif Grwneriaid ynghylch marwolaethau o ganlyniad i COVID-19 a dod i gysylltiad posibl yn y gweithle yma https://www.judiciary.uk/wp-content/uploads/2020/04/Chief-Coroners-Guidance-No-37-28.04 .20.pdf
Mae Deddf y Coronafeirws yn nodi darpariaethau brys ar gyfer yr Ymarferydd Meddygol sy'n ardystio marwolaeth a chwblhau'r ffurflenni amlosgi.