Neidio i'r prif gynnwy

Tystysgrif Feddygol o Achos Marwolaeth a Ffurflen Amlosgi 4

Tystysgrif Feddygol o Achos Marwolaeth

Mae Deddf Cofrestru Genedigaethau a Marwolaethau 1953 yn nodi bod gan y meddyg a ymwelodd â'r ymadawedig yn ystod ei salwch olaf ddyletswydd gyfreithiol i gwblhau Tystysgrif Feddygol o Achos Marwolaeth a threfnu ei danfon at y cofrestrydd perthnasol cyn gynted â phosibl i alluogi'r cofrestriad i ddigwydd. Dylai'r ymweliad fod o fewn 14 diwrnod cyn y farwolaeth, neu mae'n rhaid ei fod wedi edrych ar y corff ar ol y farwolaeth.

Mae'r ddeddfwriaeth frys gyfredol a gyflwynwyd i helpu gyda’r gwaith o reoli pandemig COVID-19 yn cynnwys diwygiadau i ganiatáu i'r meddyg sy'n ymweld gyflwyno’r Dystysgrif Feddygol o Achos Marwolaeth am y rhesymau canlynol:

  • Os oedd ymweliad y meddyg yn ystod y 28 diwrnod blaenorol, a gall y meddyg ‘fynychu’ wyneb yn wyneb neu drwy gyswllt fideo ond ni all fod trwy gysylltiad sain (h.y. dros y ffôn) yn unig  neu
  • Os yw ef neu hi wedi edrych ar y corff ar ôl marwolaeth.

Mae'r ddeddfwriaeth frys hefyd yn caniatáu i ymarferydd meddygol cofrestredig arall, nid yr ymarferydd a ymwelodd â'r ymadawedig yn ystod ei salwch olaf lofnodi’r Dystysgrif Feddygol o Achos Marwolaeth am y rhesymau canlynol:

  • Os nad yw'r ymarferydd a ymwelodd yn gallu llofnodi'r Dystysgrif Feddygol o Achos Marwolaeth neu ei bod yn anymarferol iddo wneud hynny ac
  • Os yw'r ymarferydd meddygol sy'n cynnig llofnodi'r Dystysgrif Feddygol o Achos Marwolaeth yn gallu nodi hyd eithaf ei wybodaeth a'i gred achos marwolaeth, ar yr amod bod ymarferydd meddygol wedi ymweld â’r ymadawedig o fewn y 28 diwrnod cyn ei farwolaeth.

Gall ymarferydd meddygol cofrestredig lofnodi’r Dystysgrif Feddygol o Achos Marwolaeth hyd yn oed yn achos rhywun nad yw ymarferydd meddygol wedi ymweld ag ef/hi yn ystod ei salwch olaf am y rhesymau canlynol:

  • Os yw'r ymarferydd meddygol cofrestredig yn gallu nodi hyd eithaf ei wybodaeth a'i gred achos marwolaeth ac
  • Os yw'r crwner wedi cytuno y gall yr ymarferydd meddygol gwblhau'r Dystysgrif Feddygol o Achos Marwolaeth.

Lle nad chi yw'r ymarferydd sy'n ymweld, dylid diwygio'r datganiad ar y Dystysgrif Feddygol o Achos Marwolaeth i gofnodi a ymwelodd ymarferydd meddygol ai peidio, ac os na, a yw meddyg arall wedi ymweld â’r ymadawedig o fewn 28 diwrnod neu ar ôl ei farwolaeth. Dylid defnyddio'r blychau presennol sydd wedi’u cylchu ar gyfer y gofyniad ar ôl marwolaeth. Rhaid defnyddio llofnod ysgrifenedig wrth lofnodi Tystysgrif Feddygol o Achos Marwolaeth ond gellir ei sganio a’i throsglwyddo i’r cofrestrydd yn electronig trwy gyfeiriad e-bost gwaith diogel a phersonol.

Dylid cadw at ganllawiau'r Swyddfa Ystadegau Gwladol wrth lunio achos marwolaeth ar gyfer y Dystysgrif Feddygol o Achos Marwolaeth a dylid ystyried geiriad derbyniol at ddibenion gofrestru. Gellir gweld y canllawiau safonol ar gyfer cwblhau'r Dystysgrif Feddygol o Achos Marwolaeth gan y Swyddfa Gofrestru Gyffredinol yma: https://www.gov.uk/government/publications/guidance-notes-for-completing-a-medical-certificate-of-cause-of-death.

Gellir dod o hyd i gyngor ar lunio achos marwolaeth a geiriad ac ymadroddion derbyniol at ddibenion cofrestru yma: Hwb Cyngor Canolog ar Ardystio Marwolaethau, y Dystysgrif Feddygol o Achos Marwolaeth - Llunio achos marwolaeth a geiriad ac ymadroddion derbyniol

 

Ffurflen Amlosgi 4

Mae'r gofyniad i lenwi'r dystysgrif gadarnhad feddygol (ffurflen Amlosgi 5) wedi'i atal a bydd amlosgiadau'n cael eu hawdurdodi ar ffurflen Amlosgi 4 a ffurflen Amlosgi 10.

Mae'r gofyniad i'r ymarferydd meddygol sy'n ymweld lenwi ffurflen Amlosgi 4 wedi'i atal. Bellach gall unrhyw ymarferydd meddygol lenwi ffurflen Amlosgi 4, hyd yn oed os na wnaeth ymweld â’r ymadawedig yn ystod ei salwch olaf neu ar ôl marwolaeth, os cyflawnir yr amodau canlynol:

  • Ni all yr ymarferydd meddygol a ymwelodd â'r ymadawedig lofnodi ffurflen Amlosgi 4 neu mae'n anymarferol iddo wneud hynny ac,
  • Mae ymarferydd meddygol wedi gweld yr ymadawedig (gan gynnwys ymgynghoriad clyweledol / fideo) cyn pen 28 diwrnod cyn marwolaeth, neu mae wedi gweld y corff yn bersonol ar ôl marwolaeth (gan gynnwys cadarnhad).

Gellir gweld y canllawiau llawn ar hyn yma: https://www.gov.uk/government/publications/medical-practitioners-guidance-on-completing-cremation-forms

Mae ffurflen Amlosgi 4 yn aros yr un fath ac mae fersiwn PDF i'w gweld yma: https://assets.publishing.service.gov.uk/government/uploads/system/uploads/attachment_data/file/832911/cremation-form-4-medical-certificate.pdf

Gellir ei chwblhau, ei llofnodi a'i chyflwyno'n electronig yn uniongyrchol i'r amlosgfa. Bydd llofnod electronig yn cael ei gynnwys wrth i'r ddogfen gael ei hanfon o gyfrif e-bost diogel y person sy'n llenwi ffurflen Amlosgi 4.

O dan y ddeddfwriaeth newydd, nid oes angen archwilio'r corff i gwblhau ffurflen Amlosgi 4 os gwelwyd yr ymadawedig naill ai: 

  • ar ôl marwolaeth gan ymarferydd meddygol (gan gynnwys cadarnhad), neu 
  • gan ymarferydd meddygol yn y 28 diwrnod cyn marwolaeth (gan gynnwys ymgynghoriad gweledol / fideo). 

Dylai Ymarferydd Meddygol sy'n cyflawni rôl Ardystiwr Marwolaeth Gymwysedig ddogfennu'r holl drafodaethau, adolygiadau a chasgliadau os gofynnir iddo’n ddiweddarach gyfiawnhau neu egluro ei benderfyniadau neu ei resymeg. Gellir dod o hyd i ffurflen cofnod achos enghreifftiol yma: QDC case record pro-forma

Gellir dod o hyd i gyngor ar sut i lenwi Tystysgrif Feddygol o Achos Marwolaeth a ffurflen Amlosgi 4 pan nad chi yw'r meddyg sy'n mynychu yma:

Rhannu: