Neidio i'r prif gynnwy

Hyfforddiant

 

Yn ystod y cyfnod hwn, mae'n hanfodol bod y Tystysgrifau Meddygol o Achos Marwolaeth yn cael eu cwblhau'n gywir a’u bod yn cwrdd â'r gofynion cyfredol ar gyfer cofrestru.  Bydd Tystysgrifau Meddygol o Achos Marwolaeth cywir yn helpu i roi gwybod i Iechyd y Cyhoedd am broses afiechyd, ac i wahaniaethu rhwng marwolaethau a achosir yn uniongyrchol gan COVID-19 a lle roedd COVID-19 wedi cyfrannu at farwolaethau.  Mae ardystio marwolaethau cywir hefyd yn caniatáu i gydafiacheddau presennol gael eu cofnodi’n gywir, gan helpu i roi gwybod i Iechyd y Cyhoedd am grwpiau ‘mewn perygl’ wrth inni barhau i geisio amddiffyn yr unigolion sy’n agored i niwed yn ein poblogaeth.

Gwrthodir Tystysgrifau Meddygol o Achos Marwolaeth sy'n methu â bodloni gofynion y Cofrestrydd a chaiff yr hysbysydd ei wrthod os yw'n bresennol.  Yna bydd y crwner yn cael gwybod am y farwolaeth, hyd yn oed os nad oes rheswm arall i gyfeirio'r farwolaeth. Mae hyn yn creu beichiau a gwaith diangen i'r crwner a'i swyddogion.  Mae hefyd yn achosi gofid i'r rhai sydd mewn profedigaeth os yw'r rhan hon o'r broses yn cael ei thrin yn wael ac mewn modd ansensitif. Yn y cyfnod anodd hwn, mae'r un mor bwysig bod y rhai mewn profedigaeth yn cael gwybod achos marwolaeth eu hanwylyd mewn ffordd onest ac agored.

Yn ystod y pandemig hwn, mae hefyd yn bwysig diogelu Patholegwyr trwy atal archwiliadau post-mortem diangen, naill ai post-mortem gan grwner neu drwy gydsyniad, a sicrhau nad ydym yn gorlwytho swyddfa'r crwner gydag atgyfeiriadau amhriodol.

Mae gan yr e-Ddysgu a ddyluniwyd ar gyfer archwilwyr meddygol sawl modiwl pwysig ar ardystio a chyfeirio marwolaethau at grwner. Gellir cyrchu'r hyfforddiant yma: https://www.e-lfh.org.uk/ a bydd angen i chi gofrestru cyfrif i gael mynediad i'r deunydd hyfforddi. Argymhellir y modiwlau canlynol ar gyfer y rôl Ardystiwr Marwolaethau Cymwysedig (QDC):

02_01 - Tystysgrif Feddygol o Achos Marwolaeth

02_02 - Cwblhau'r Dystysgrif Feddygol o Achos Marwolaeth Rhan 1: Adran Ffurfiol

02_03 - Cwblhau'r Dystysgrif Feddygol o Achos Marwolaeth Rhan 2: Achos Marwolaeth

02_04 - Cwblhau'r Dystysgrif Feddygol o Achos Marwolaeth Rhan 3: Senarios

06_03 - Senario: Pryd mae henaint yn dderbyniol ar Dystysgrif Feddygol o Achos Marwolaeth?

06_04 - Senario: Marwolaethau Disgwyliedig y Tu Allan i'r Ysbyty gan gynnwys Achosion Lliniarol

06_06 - Senario: Marwolaeth ar ôl Stent Coronaidd

06_07 - Senario: Nid yw’r amgylchiadau’n cyfiawnhau’r achos marwolaeth a roddir gan y meddyg teulu.

06_11 - Senario: Marwolaeth Menyw ag Epilepsi

09_01 - Swyddfa Crwner EM Rhan 1: Strwythur a Chylch Gwaith y Swyddfa

09_02 - Swyddfa Crwner EM Rhan 2: Hawl y Crwner i Ymchwilio

09_03 - Swyddfa Crwner EM Rhan 3: Ymchwiliad y Crwner

09_04 - Y Farwolaeth Annaturiol Rhan 1: Awdurdodaeth y Crwner

09_05 - Y Farwolaeth Annaturiol Rhan 2: Digwyddiadau Annaturiol

09_06 - Y Farwolaeth Annaturiol Rhan 3: Esgeulustod neu Ofal Meddygol

09_10 - Marwolaethau y Dylid Adrodd Amdanynt.

 

Mae Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol hefyd wedi darparu diweddariad o'r sesiwn hyfforddi ar newidiadau i ardystio marwolaethau yn ystod argyfwng COVID-19 y gellir cael mynediad ati yma:https://elearning.rcgp.org.uk/course/view.php?id=378

Tystysgrif Feddygol o Achos Marwolaeth a Ffurflen Amlosgi 4

Mae Deddf y Coronafeirws yn nodi darpariaethau brys ar gyfer yr Ymarferydd Meddygol sy'n ardystio marwolaeth a chwblhau'r ffurflenni amlosgi.

 

Rhannu: