Neidio i'r prif gynnwy

Trin corff

 

Yn ystod y cyfnod hwn, mae llai o ofynion i unigolyn sy'n llenwi ffurflen Amlosgi 4 neu'r Dystysgrif Feddygol o Achos Marwolaeth edrych ar y corff. Fodd bynnag, os yw'n ofynnol i chi edrych ar y corff, neu os ydych am gadarnhau pwy yw'r unigolyn ymadawedig, dylid dilyn y canllawiau isod ar gyfer rheoli heintiau a gwisgo PPE:

 

Codwyd cwestiynau a phryderon ynghylch cael gwared ar reolyddion calon a dyfeisiau eraill y gellir eu mewnblannu. Mae gwefan NAFD yn nodi (https://nafdcovid19.org.uk/advice-for-funeral-directors/frequently-asked-questions/) os na fydd yr ysbyty yn tynnu’r rheolydd calon cyn i'r trefnydd angladdau fynd â'r person ymadawedig i'w ofal, mae canllawiau Public Health England yn cadarnhau y gall pêr-eneinwyr gyflawni'r weithdrefn hon gan ddefnyddio'r PPE priodol.

Mae The British Institute of Embalmers wedi cyhoeddi canllawiau penodol ar y broses hon i’w aelodau ac mae’r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cadarnhau y bydd trefnwyr angladdau yn gallu cyrchu cyflenwadau PPE trwy eu Fforwm Lleol Cymru Gydnerth. Fodd bynnag, rydym yn ymwybodol nad polisi rhai trefnwyr angladdau eu hunain yw pêr-eneinio na symud rheolyddion calon o achosion COVID-19 a gadarnhawyd neu a amheuir.

Mae The British Heart Rhythm Society hefyd wedi cyhoeddi datganiad ar Ddadactifadu a Thynnu ICDs a Rheolyddion Calon Post-Mortem yn ystod Pandemig COVID-19: https://bhrs.com/bhrs-mortuary-icd-deactivation-statement-covid-19/

 

Mae gan Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) y canllaw hwn (tudalen 24):

https://www.hse.gov.uk/pubns/books/hsg283.htm

 

ac mae gan DMAG y canllaw hwn:

http://www.dmag2020.org/bie-guidance-for-embalmers/

 

Mae'r holl ganllawiau'n nodi y gellir tynnu rheolyddion calon / mewnblaniadau i hwyluso cais amlosgi gan deulu, ond dylid cynnal asesiad risg priodol, dylai PPE priodol fod ar gael a dylai'r unigolyn sy'n ei dynnu allan fod yn gymwys ac yn cytuno i gyflawni'r weithdrefn.

  • Dolen Coleg Brenhinol y Patholegwyr i PPE ac archwilio'r corff / post-mortemau:

https://www.rcpath.org/uploads/assets/0b7d77fa-b385-4c60-b47dde930477494b/G200-TBPs-Guidance-for-care-of-deceased-during-COVID-19-pandemic.pdf

  • Canllawiau Ffydd ar ddiwedd Oes:

https://assets.publishing.service.gov.uk/government/uploads/system/uploads/attachment_data/file/496231/Faith_at_end_of_life_-_a_resource.pdf

  • Ystyriaethau'n ymwneud â thrin cyrff pobl ymadawedig yr amheuir neu y cadarnhawyd bod ganddynt COVID-19 yn ddiogel:

https://www.ecdc.europa.eu/sites/default/files/documents/COVID-19-safe-handling-of-bodies-or-persons-dying-from-COVID19.pdf

 

Rhannu: