Neidio i'r prif gynnwy

Ystyriaethau eraill

Yn ystod y gwaith o gynllunio ar gyfer pandemig COVID-19 o ran darparu ardystiad marwolaeth a chwblhau ffurflen amlosgi, fe'ch cynghorir hefyd i ystyried y pwyntiau canlynol wrth sefydlu sut y byddwch yn rheoli hyn yn lleol:

  • Derbyn taliad am ffurflen Amlosgi 4 os yw'r Ardystiwr Marwolaethau Cymwysedig eisoes yn cael ei dalu am gyflawni'r gwaith
  • Mewn ardaloedd lle mae'r tîm sy'n mynychu yn dymuno llenwi'r Dystysgrif Feddygol o Achos Marwolaeth neu ffurflen Amlosgi 4, dylid ystyried ymarferoldeb tynnu cyfarpar diogelu personol (PPE) a’i wisgo eto dro ar ôl tro
  • Diogelwch swyddogion y Gwasanaeth Profedigaeth / technegwyr patholeg anatomegol / staff gweinyddol pan fydd y tîm sy'n mynychu yn cyrraedd swyddfa o wardiau COVID
  • Cynnwys y perthynas agosaf yn yr achos marwolaeth: ni fydd y mwyafrif o deuluoedd wedi gallu bod yn bresennol yn ystod y salwch olaf felly dylid trafod achos y farwolaeth gyda nhw. Gallai hyn naill ai fod yn ddyletswydd ar y timau clinigol cyfrifol, neu ar y meddyg sy’n cyflawni'r ddogfennaeth ardystio marwolaeth.
  • Cytundebau lleol ynglŷn â symud rheolyddion calon a dyfeisiau eraill y gellir eu mewnblannu
  • Cyngor a chefnogaeth barhaus i'r ymarferwyr sy'n mynychu sy'n gallu llenwi eu Tystysgrif Feddygol o Achos Marwolaeth a ffurflen Amlosgi 4 eu hunain.
Rhannu: