Neidio i'r prif gynnwy

Hysbysiad i Iechyd Cyhoeddus Cymru

Mae gan ymarferwyr meddygol cofrestredig yng Nghymru a Lloegr ddyletswydd statudol i hysbysu eu hawdurdod lleol neu'r Tîm Diogelu Iechyd lleol am achosion posibl o glefydau heintus penodol.

Rhestrir COVID-19 yn y rhestr ragnodedig o Glefydau y dylid hysbysu swyddogion priodol awdurdodau lleol amdanynt o dan Reoliadau Diogelu Iechyd (Hysbysu) 2010: http://www.legislation.gov.uk/uksi/2010/659/contents/made

  • Bydd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cael ei hysbysu'n awtomatig am holl ganlyniadau swab positif COVID gan y labordy sy’n adrodd.
  • Dylid rhoi gwybod am farwolaethau ymysg cleifion mewn ysbyty sydd wedi cael prawf cadarnhau ar gyfer COVID-19 yn y 28 diwrnod cyn marwolaeth trwy'r e-ffurflen ar Borth Clinigol Cymru. (Mae hyn yn ychwanegol at brosesau arferol ar gyfer cofnodi achos marwolaeth (h.y. ardystio marwolaeth) a hysbysiad statudol o glefyd o dan y Rheoliadau Diogelu Iechyd)
  • Bydd canllawiau ar gyfer y broses hon yn cael eu rhannu yn fuan trwy gyfarwyddwyr meddygol yn y Byrddau Iechyd
  • Nid oes angen rhoi gwybod am farwolaethau lle na chaiff COVID-19 ei gadarnhau (h.y. amheuir ond dim canlyniad labordy) trwy'r ffurflen hon (cesglir data ar yr achosion hyn fel rhan o'r data ardystio marwolaeth arferol trwy'r Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Gellir gweld canllawiau ar gyfer y broses hysbysu ar wefan Llywodraeth Cymru: https://llyw.cymru/deddfwriaeth-diogelu-iechyd-canllawiau-2010

 

Rhannu: