Neidio i'r prif gynnwy

Cyfeirio at grwner

Cyfeirio at grwner

Mae COVID-19 yn glefyd sy'n bodoli’n naturiol ac felly mae'n gallu bod yn achos marwolaeth naturiol. Mae marwolaeth sydd â ffactorau ychwanegol yn golygu bod angen cyfeirio’r farwolaeth at y crwner - er enghraifft lle nad yw'r achos yn glir, neu lle mae ffactorau perthnasol eraill. Efallai y bydd achosion hefyd lle gallai marwolaeth a fyddai fel arall yn cael ei hystyried i fod o ganlyniad i achosion naturiol yn cael ei hystyried yn annaturiol.

Mae marwolaethau y dylid adrodd amdanynt yn cynnwys:

  • Marwolaeth o ganlyniad i wenwyno, gan gynnwys gan sylwedd sydd fel arall yn ddiniwed
  • Marwolaeth o ganlyniad i ddod i gysylltiad â sylwedd gwenwynig
  • Marwolaeth o ganlyniad i ddefnyddio cynnyrch meddyginiaethol, cyffur rheoledig neu sylwedd seicoweithredol
  • Marwolaeth o ganlyniad i drais
  • Marwolaeth o ganlyniad i drawma neu anaf
  • Marwolaeth o ganlyniad i hunan-niweidio
  • Marwolaeth o ganlyniad i esgeulustod, gan gynnwys hunan-esgeulustod
  • Marwolaeth o ganlyniad i’r person yn cael triniaeth o natur feddygol neu debyg
  • Marwolaeth o ganlyniad i anaf neu glefyd y gellir ei briodoli i unrhyw gyflogaeth a fu gan yr unigolyn yn ystod ei fywyd
  • Marwolaeth o ganlyniad i achosion annaturiol ond na ddaw o dan unrhyw un o'r amgylchiadau a restrir yn is-baragraff (a)
  • Achos y farwolaeth yn anhysbys
  • Marwolaeth yn y ddalfa neu wrth i unigolyn gael ei gadw yn nalfa’r wladwriaeth fel arall
  • Nid oes unrhyw ymarferydd meddygol yn mynychu o fewn amserlen resymol
  • Ni wyddys pwy yw'r ymadawedig.

 

Mae'r Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi diwygio'r rheoliadau hysbysu marwolaeth - pryd i gyfeirio marwolaeth at y Crwner yn ystod pandemig COVID-19

https://assets.publishing.service.gov.uk/government/uploads/system/uploads/attachment_data/file/878083/revised-guidance-for-registered-medical-practitioners-on-the-notification-of-deaths-regulations.pdf

 

Mae'r Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi diwygio'r rheoliadau hysbysu marwolaeth - pryd i gyfeirio marwolaeth at y Crwner yn ystod pandemig COVID-19

https://assets.publishing.service.gov.uk/government/uploads/system/uploads/attachment_data/file/878083/revised-guidance-for-registered-medical-practitioners-on-the-notification-of-deaths-regulations.pdf

 

Y nod ddylai fod y dylid delio â phob marwolaeth o ganlyniad i COVID-19 nad oes angen ei chyfeirio at y crwner yn ôl y gyfraith trwy'r broses Tystysgrif Feddygol o Achos Marwolaeth.  Mae'r Prif Grwner a'r Archwilydd Meddygol Cenedlaethol yn cytuno â hyn yn llwyr - gellir dod o hyd i ganllawiau llawn y Prif Grwner yma:

https://www.judiciary.uk/wp-content/uploads/2020/03/Chief-Coroner-Guidance-No.-34-COVID-19_26_March_2020-.pdf

 

Mae'n bwysig cofio ystyried galwedigaeth unigolyn pan fo'r farwolaeth yn gysylltiedig â COVID-19. Os oes achos i amau bod yr unigolyn wedi cael y salwch trwy amlygiad yn ymwneud â'i alwedigaeth, dylid hysbysu'r crwner am y farwolaeth. Gellir gweld canllawiau'r Prif Grwneriaid ynghylch marwolaethau o ganlyniad i COVID-19 a dod i gysylltiad posibl yn y gweithle yma https://www.judiciary.uk/wp-content/uploads/2020/04/Chief-Coroners-Guidance-No-37-28.04 .20.pdf

Mae Deddf y Coronafeirws yn nodi darpariaethau brys ar gyfer yr Ymarferydd Meddygol sy'n ardystio marwolaeth a chwblhau'r ffurflenni amlosgi.

 

Rhannu: