Neidio i'r prif gynnwy

Archwilio Mewnol

 

Gall darparwyr sicrwydd allanol, gan gynnwys Swyddfa Archwilio Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, hefyd geisio dibynnu ar y gwaith a gyflawnir gan Archwilio Mewnol wrth gynllunio eu gwaith eu hunain. Yn wir, mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru eisoes yn gwneud hynny, yn unol â gofynion y Concordat rhwng cyrff sy’n arolygu, archwilio a rheoleiddio gofal iechyd yng Nghymru. Mae potensial i’r berthynas hon rhwng archwilio mewnol a rheoleiddwyr allanol ddatblygu ymhellach o ystyried y cynnydd yn annibyniaeth ac ymddygiad proffesiynol y swyddogaeth Archwilio Mewnol.

Yn unol â’r gwaith o ddiwygio’r strwythur gofal iechyd yn 2009/10, amlinellodd Llywodraeth Cymru fframwaith ar gyfer darparu Archwilio Mewnol yn mewn ffordd effeithiol o fewn y GIG newydd yng Nghymru. Mae’r trefniadau hyn wedi aeddfedu a datblygu ymhellach yn sgil cyflwyno model newydd o ddarpariaeth gwasanaethau archwilio trwy Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (NWSSP) o 2011/12 ymlaen.

Mae Gwasanaethau Archwilio a Sicrwydd NWSSP yn darparu gwasanaethau archwilio a sicrwydd proffesiynol o safon i holl sefydliadau’r GIG yng Nghymru. Rheolir y swyddogaeth gan Gyfarwyddwr Archwilio a Sicrwydd, gyda Phennaeth Archwilio Mewnol wedi’i enwebu ar gyfer pob sefydliad lleol. Mae’r model hwn yn galluogi byrddau i fanteisio ar wasanaeth sy’n ymateb i anghenion a blaenoriaethau sefydliadau lleol a chydymffurfio â safonau gorfodol ac arferion gorau’r diwydiant o ran rhoi fframweithiau, polisïau a phrotocolau ar waith. I gael mwy o wybodaeth am Wasanaethau Archwilio a Sicrwydd NWSSP, ewch i’r adran dolenni defnyddiol ar y dudalen hon.

Mae’r fframwaith cyffredinol a ddefnyddir gan Archwilio Mewnol i ddarparu llif o sicrwydd i’r Swyddog Atebol a’r Bwrdd hefyd wedi’i ddatblygu a’i gryfhau. Un o’r newidiadau allweddol yw cyflwyno Safonau Archwilio Mewnol y Sector Cyhoeddus (PSIAS). Bydd y safonau’n berthnasol i bob corff cyhoeddus o 1 Ebrill 2013 ymlaen a byddant yn disodli’r Safon Archwilio Mewnol ar gyfer y GIG yng Nghymru a gyhoeddwyd yn 2009.  

Mae’r Safonau newydd yn seiliedig ar elfennau gorfodol International Professional Practices Framework (IPPF) yr Institute of Internal Auditors (IIA), a’u bwriad yw hyrwyddo gwelliannau pellach ym mhroffesiynoldeb, ansawdd, cysondeb ac effeithiolrwydd archwilio mewnol ar draws y sector cyhoeddus. Maent wedi’u diwygio yn sgil sylwadau a ddaeth i law yn ystod proses ymgynghori agored, ac maent yn pwysleisio pwysigrwydd trefniadau archwilio mewnol cadarn, annibynnol a gwrthrychol er mwyn darparu’r sicrwydd allweddol sydd ei angen ar y Swyddog Atebol i’w helpu i reoli’r sefydliad a chynhyrchu’r Datganiad Llywodraethu Blynyddol. Mae’r PSIAS ar gael yn yr adran adnoddau ar y dudalen hon.

Mae dogfennau a chanllawiau eraill hefyd wedi’u diweddaru ers fframwaith 2009 er mwyn sicrhau eu bod yn gyfredol a sicrhau arferion gorau wrth ddarparu Archwilio Mewnol yn GIG Cymru. Mae’r dogfennau newydd hyn, sydd ar gael fel Dogfennau Allweddol ar y dudalen hon, yn cynnwys:

  • Siarter enghreifftiol wedi’i ddiweddaru ar gyfer Archwilio Mewnol (Ionawr 2013)
  • Llawlyfr y Pwyllgor Archwilio wedi’i ddiweddaru (Mehefin 2012)

 

Bydd angen i Fyrddau ac Ymddiriedolaethau’r GIG sicrhau bod eu darpariaeth Archwilio Mewnol trwy Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru yn gweithredu’n unol â’r fframwaith wedi’i ddiweddaru a’r gofynion a amlinellir mewn Rheolau Sefydlog. Yn arbennig, bydd angen i Fyrddau:

  • fabwysiadu Siarter Archwilio Mewnol lleol yn amlinellu diben, cyfrifoldeb ac awdurdod Archwilio Mewnol (yn seiliedig ar y model isod); 
  • sicrhau bod y Pennaeth Archwilio Mewnol yn cyfathrebu ac yn rhyngweithio’n uniongyrchol â’r Bwrdd, gan hwyluso mynediad uniongyrchol ac anghyfyngedig;
  • ei gwneud hi’n ofynnol i Archwilio Mewnol gadarnhau ei annibyniaeth a’i gydymffurfiaeth â’r Safonau Archwilio Mewnol yn flynyddol; a
  • sicrhau bod y Pennaeth Archwilio Mewnol yn cyflwyno adroddiad blynyddol i’r Swyddog Atebol a’r Bwrdd, trwy’r Pwyllgor Archwilio, ynglŷn â’i farn am reoli risg, llywodraethu a rheolaeth.

 

Bydd Ysgrifenyddion y Bwrdd yn hwyluso’r gofynion hyn trwy gynllunio busnes y Bwrdd.

Mae’r gwaith archwilio mewnol yn cael ei oruchwylio gan Bwyllgor Archwilio a sefydlwyd gan y Bwrdd i ystyried materion archwilio, ac mae’r pwyllgor hwn yn gyfrifol am gynghori’r Bwrdd ar effeithiolrwydd y swyddogaeth archwilio mewnol. Dylai gwaith y Pwyllgor Archwilio ddilyn y canllawiau a amlinellir yn Llawlyfr Pwyllgor Archwilio’r GIG, sydd i’w weld trwy’r dudalen hon.

 

Dolenni defnyddiol: