Neidio i'r prif gynnwy

Mae Gwasanaethau Atal Twyll Cymru y GIG

 

Nod y strategaeth atal twyll yn y GIG yng Nghymru yw:

  • Lleihau twyll yn y GIG yng Nghymru i lefel isel;
  • Cynnal y lefel honno’n barhaol; ac felly  
  • Rhyddhau adnoddau i wella gofal cleifion

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i leihau twyll. Mae Cyfarwyddiadau 2005 i Gyrff  Gwasanaethau Iechyd Gwladol ar Fesurau Atal Twyll yn creu fframwaith i sicrhau bod cyrff GIG Cymru yn defnyddio dull cyson a phroffesiynol wrth fynd i’r afael â gwaith atal twyll a llygredd. Mae’r canllawiau hefyd yn caniatáu i gyrff iechyd gydweithio ar sail gyffredin a rhoi mecanwaith ar waith ar gyfer integreiddio pob gweithgaredd i gael yr effaith orau. Diwygiwyd y Cyfarwyddiadau hyn yn 2006.

Cylchlythyr Iechyd Cymru 2005/095 - (Diwygiedig) Cyfarwyddiadau i gyrff y Gwasanaethau Iechyd Gwladol ar Fesurau Atal Twyll 2005 (PDF,44KB)

Cyfarwyddiadau i Gyrff y GIG ar Fesurau Atal Twyll (Cymru) (Diwygiad) 2006 (2006 Rhif 54)

Perthynas Gydweithio

Mae’r strategaeth yn cynnwys perthynas gydweithio rhwng Llywodraeth Cymru ac NHS Protect yn Lloegr. Arweiniodd hyn at recriwtio Tîm arbenigol Cymru y Gwasanaeth Atal Twyll yn y GIG (CFS Cymru), sy’n ymchwilio i faterion o dwyll a llygredd yn y GIG yng Nghymru. Mae CFS Cymru yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a’i reoli’n weithredol trwy NHS Protect.

Mae CFS Cymru yn dibynnu’n bennaf ar Gyfarwyddiadau Llywodraeth Cymru ar Fesurau Atal Twyll i gael gafael ar wybodaeth fewnol berthnasol. Mae’r Cyfarwyddiadau’n nodi bod rhaid i gyrff iechyd yng Nghymru adrodd eu holl bryderon ynglŷn â thwyll a llygredd i CFS Cymru a sicrhau bod y Gwasanaeth yn gallu cael gafael ar weithwyr cyflogedig ac ymarferwyr GIG Cymru ac unrhyw ddogfennau a gwybodaeth berthnasol am y GIG.

Mae’r Cyfarwyddiadau hefyd yn nodi bod rhaid i gyrff iechyd GIG Cymru enwebu unigolyn addas i weithredu fel eu Harbenigwr Lleol ar Atal Twyll (LCFS).

 

CFS Cymru

Mae tîm CFS Cymru yn cynnwys ymchwilwyr profiadol sy’n ymdrin ag achosion cymhleth o dwyll a llygredd ar raddfa fawr yn GIG Cymru. Mae’r tîm o chwech yn gweithio’n agos gyda chyrff ymchwilio eraill, gan gynnwys yr Heddlu, ac mae ganddo’r awdurdod i gyflawni gwaith gwyliadwriaeth cudd (o dan RIPA) a gwaith ymchwilio ariannol (o dan POCA).

Mae tîm CFS Cymru hefyd yn darparu cymorth ac arweiniad i’r rhwydwaith o Arbenigwyr Lleol ar Atal Twyll (LCFS) sy’n gweithio mewn cyrff iechyd yng Nghymru. Fel arfer, mae’r LCFS yn ymchwilio i achosion o dwyll ar raddfa lai o fewn eu cyrff iechyd eu hunain. Mae’r LCFS yn gweithio gyda CFS Cymru i helpu i ddatblygu diwylliant atal twyll cadarn a chosbau troseddol, sifil a disgyblu pendant pan fo hynny’n briodol.

 

Cosbau 

Mae pob achos troseddol posibl yn cael eu hadolygu gan Wasanaeth Erlyn y Goron ac ystyrir yr ystod lawn o gosbau troseddol, sifil neu ddisgyblu mewn perthynas â phob achos addas. 

Roedd tîm CFS Cymru wedi ymchwilio i gyfanswm o 153 o atgyfeiriadau gwerth uchel erbyn 31.12.12, ac roedd y rhwydwaith o 18 o LCFS wedi ymchwilio i 1,168 o atgyfeiriadau ychwanegol. Mae’r ymchwiliadau wedi arwain at adennill dros £5.1 miliwn ar gyfer GIG Cymru a sicrhau 133 o gosbau troseddol, 204 o adferiadau sifil a 208 o gamau disgyblu trwy gyflogwyr a chyrff proffesiynol y GIG. 

 

Adrodd Twyll

Dylai unrhyw bryderon posibl ynglŷn â thwyll neu lygredd yn GIG Cymru neu geisiadau am wybodaeth ychwanegol gael eu hatgyfeirio i CFS Cymru, eu hadrodd i LCFS eich cyrff iechyd neu eu hadrodd i’r Llinell Adrodd ar Dwyll a Llygredd, rhadffôn 0800 028 40 60.

 

Dolenni defnyddiol: