Neidio i'r prif gynnwy

Safonau Ansawdd Iechyd a Gofal 2023

Mae'r Safonau Ansawdd Iechyd a Gofal yn disodli Safonau Iechyd a Gofal 2015 fel y nodir yn WHC/2023/013.   Mae cynnwys ansawdd yn alinio’r safonau’n uniongyrchol â’r Ddyletswydd Ansawdd a gyflwynwyd ym mis Ebrill 2023 drwy Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020. Mae’r safonau’n nodi'r hyn y gall pobl Cymru ei ddisgwyl pan fyddant yn cael gwasanaethau iechyd a pha ran y gallant hwy eu hunain ei chwarae wrth hyrwyddo eu hiechyd a'u llesiant eu hunain. Maent yn nodi'r disgwyliadau ar gyfer gwasanaethau a sefydliadau, p'un a ydynt yn darparu neu'n comisiynu gwasanaethau i'w dinasyddion lleol.

Mae’r safonau yn cynnig fframwaith cyson sy’n galluogi gwasanaethau iechyd i allu edrych ar eu holl wasanaethau mewn ffordd integredig i sicrhau ansawdd uchel ym mhopeth y maent yn ei wneud a bod y staff cywir yn gwneud y pethau cywir, yn y ffordd gywir, yn y lle cywir ar yr adeg gywir.  Mae'r Safonau Ansawdd Iechyd a Gofal yn ffordd o gymhwyso'r Ddyletswydd Ansawdd yn ymarferol ar draws yr holl wasanaethau a swyddogaethau, boed yn glinigol neu'n anghlinigol. Dylai penderfyniadau sy'n cael eu gyrru gan ansawdd wella ansawdd gwasanaethau iechyd a pharhau i ganolbwyntio ar wella canlyniadau i bobl.

Dylai penderfyniadau fod yn seiliedig ar 12 Safon Ansawdd Iechyd a Gofal 2023: Gofal Diogel, Amserol, Effeithiol, Effeithlon, Teg sy'n Canolbwyntio ar yr Unigolyn (STEEP) a ddarperir trwy: Arweinyddiaeth, y Gweithlu, Diwylliant a Gwerthfawrogi Pobl, Gwybodaeth, Dysgu, Gwella ac Ymchwil a Dull System Gyfan.

Mae'r diagram isod yn dangos y safonau: