Yn ein Tîm Masnachol mae Andrew Evans, Laura Johnson, Daniel Gandy a Leanne Fowler, ac fe’u cefnogir gan gyfreithwyr dan hyfforddiant. Gyda’i gilydd mae ganddynt nifer fawr o flynyddoedd o brofiad mewn ymdrin ag ystod helaeth o ddadleuon cyfreithiol, goruchwylio’r broses caffael a rhoi cyngor ar degwch gweithdrefnol ledled GIG Cymru.
Mae’r tîm Masnachu yn hysbysu cyrff iechyd ledled Cymru ar bob math o faterion, rhai dadleuol a rhai nad ydynt yn ddadleuol, sy’n cynnwys materion Masnachol (cytundebau cytundebol) a materion yn ymwneud â chyfraith gyhoeddus (adolygiadau barnwrol). Rydym hefyd yn helpu’r GIG i ddeall cymhlethdodau’r ddrysfa o reoleiddio sy’n bodoli.
Ein hethos yw helpu Byrddau ac Ymddiriedolaethau yng Nghymru i reoli’r materion hyn mewn ffordd ymarferol ac amserol a’n rhyddhau i wneud yr hyn y mae’n ei wneud orau, sef trin cleifion.
Isod mae rhestr anghyflawn o rai o’r pynciau yr ydym yn gallu rhoi cyngor arnynt:
Rydym yn ymfalchïo yn y ffaith mai ni yw, nid yn unig y gwerth gorau am arian, ond y tîm cyfreithiol nad oes ei debyg o ran dyfnder gwybodaeth o’r GIG a sut y mae’n gweithio.
“Mae argaeledd ein cefnogaeth gyfreithiol ein hunain wedi gwneud gwahaniaeth mawr i gydweithwyr Caffael ledled Cymru. Rydym wedi gallu datblygu perthnasoedd ar y cyd sy’n llawer agosach sy’n gweithio er lles GIG Cymru. Mae proffesiynoldeb y tîm o’r safon uchaf ".Mark Roscrow
Cyfarwyddwr Gwasanaethau Caffael
Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru