Neidio i'r prif gynnwy

Unioni Cam

putting things right Team

Pwy ydym ni

Mae’r tîm Unioni Cam yn cael ei arwain gan Gemma Cooper, sy’n Gyfreithiwr profiad Esgeulustod Clinigol profiadol. Caiff Gemma ei chefnogi gan Charlotte Morgan, Cyfreithiwr, ac Angharad Wynford-Thomas, Gweithredwr Cyfreithiol. Mae’r tair yn darparu cyngor i holl GIG Cymru.

 

Beth rydym yn ei wneud

Mae Mesur Gwneud yn iawn am Gamweddau GIG (Cymru) 2008 a Rheoliadau (Trefniadau Pryderon, Cwynion ac Iawn) (Cymru) y GIG 2011 wedi rhoi cyfle i Gyrff Iechyd symleiddio’r broses o archwilio pob pryder a godir gan gleifion, eu teuluoedd a staff. Mae’r ddeddfwriaeth hon yn unigryw i Gymru.

Gweler isod am ddolenni at y ddeddfwriaeth a’r arweiniad perthnasol:

Mae’r manteision o adfer pryder yn unol â’r trefniadau yn cynnwys gwell fynediad i gyfiawnder i gleifion, gwell diogelwch i gleifion ac arbed costau i GIG Cymru o ran ffioedd cyfreithiol. Cafwyd canlyniadau ffafriol ledled GIG Cymru. Mae ein tîm wedi ei gynllunio i gynorthwyo cyrff GIG i elwa’n llawn o’r cynllun.

Mae gan Dîm PTR Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg wybodaeth arbenigol o’r Ddeddfwriaeth ac Arweiniad a roddir gan Lywodraeth Cymru.  Mae gan bob Corff Iechyd bwynt cyswllt sy’n sicrhau y caiff perthnasoedd cryf gyda chleientiaid eu hadeiladu a’u cynnal. Cynigwn ymagwedd ymarferol o ran cymorth a gallwn ddarparu cyngor ac arweiniad ar unwaith wrth archwilio digwyddiadau, cwynion a phryderon difrifol.

Gallwn gynorthwyo gyda dealltwriaeth o’r Rheoliadau ar bynciau sy’n codi, fel:

  • Rheoli cofnodion a materion yn ymwneud â diogelu data
  • Ystod yr archwiliad
  • Cael gafael ar safbwyntiau clinigol annibynnol
  • Cyfathrebu â theuluoedd
  • Yr hyn sy’n gyfystyr â ‘Atebolrwydd Cymwys’ dan y cynllun
  • Drafftio ymatebion
  • Lefelau iawndal ariannol
  • Y fframwaith ffïoedd cyfreithiol
  • Argymhellion rheoli risg
  • Trefniadau trawsffiniol a gofal sylfaenol

Yn ogystal â Chyrff Iechyd sy’n gwario, mae tîm PTR yn aelodau allweddol o’r gwaith a wneir gan Lywodraeth Cymru yn dilyn adolygiad Evans’. Rydym yn anelu at sicrhau y caiff arfer da ei rannu ledled GIG Cymru.

Cynorthwyo i symleiddio’r broses a sicrhau y caiff ei gynnal heb drafferth, er mwyn i’r broses o Unioni gael ei gweld fel dewis da o’i gymharu ag ymgyfreitha

Mae’r tîm wedi cael ei gymeradwyo’n fawr yng Ngwobrau Staff yr NWSSP 2016 a’u henwebu ar gyfer Gwobrau Cymdeithas y Gyfraith 2016.