Neidio i'r prif gynnwy

Anafiadau Personol

Personal Injury Team

Pwy ydym ni

Caiff ein tîm ei arwain gan Andrew Hynes, Cyfreithiwr sydd â phrofiad helaeth mewn Ymgyfreitha Sifil. Caiff ei gefnogi gan Robert Jenkins, Cyfreithiwr, a Hanna Salerno, Gweithredwr Cyfreithiol, yn ogystal â nifer o Gyfreithwyr dan Hyfforddiant, para gyfreithwyr a staff cefnogol.

 

pdf icon

 

Tîm y flwyddyn 2017

 

Beth rydym yn ei wneud

“Byddwch y gorau; gwnewch y mwyaf; Arloeswch”

Sefydlwyd datganiad nod adran Anafiadau Personol yr adran yn niwedd y 1990au ac maen yn crynhoi gwaith y tîm.

Mae’r tîm hwn, nad yw’n elwa’n ariannol, yn darparu cyngor i Ymddiriedolaethau a Byrddau ledled Cymru yn y meysydd canlynol:

  • Atebolrwydd Cyflogwyr a’r Cyhoedd
  • Straen oherwydd gwaith
  • Bwlio ac aflonyddu
  • Trais ac Ymddygiad ymosodol
  • Salwch diwydiannol, yn cynnwys
  • Asbestos
  • Colli clyw
  • Codi a chario gwrthrych a pherson
  • Anaf o straen ailadroddus
  • Offer diffygiol
  • Rheoli heintiau
  • Achosion o lithro a baglu

Gwybodaeth arbenigol client a gwasanaeth gwerth ychwanegol

Mae’r Adran yn unigryw oherwydd y ffaith fod ganddi wybodaeth drylwyr am y GIG, dealltwriaeth ddofn o Bolisïau’r Bwrdd yn ogystal â rhwydwaith gref o gysylltiadau â phersonél allweddol ar bob lefel. Caiff perthnasoedd cryf eu hadeiladau gyda chleientiaid.

Risg

Cyflwynwyd adroddiadau chwe mis, er mwyn rhoi gwybodaeth i gleient am bynciau a darparu dadansoddiad gwerthfawr o dueddiadau ym mhob maes yn y broses ymgyfreitha i Fyrddau Iechyd yn ogystal â ffocysu ar wersi dysgu a rhoir gorau i reoli meysydd risg ymarferol sydd wedi eu hadnabod fel rhai sy’n agored i niwed. Mae atal yn well na gwella.

Mae’r canlyniadau a gafwyd wrth amddiffyn achosion ac wrth ddarparu cyngor wedi bod yn gyson uchel. Arddangoswyd lefelau uchel o arbedion o ran costau ac iawndal yn barhaus.

Addysg

Mae ymagwedd ymarferol y tîm yn sicrhau cydweithrediad gyda chleientiaid. Mae rhaglenni a chyflwyniadau addysgol yn sicrhau y caiff y cleient y wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â phob agwedd ar ymarfer. Rydym yn awyddus i gynnal hyfforddiant cyson.

 

“Mae’r gwasanaeth a ddarperir gan ein cyfreithwyr Cyfraith a Risg yn amhrisiadwy. Diolch i ymrwymiad, profiad a gwybodaeth eu staff mae eu gwaith wedi cynnwys:
  • Eu gwaith craidd wrth amddiffyn hawliadau cyfreithiol am anafiadau personol na ellir eu cyfiawnhau, sydd wedi ein galluogi i ddiogelu arian cyhoeddus.
  • Maent wedi datblygu adroddiadau ystadegol bob chwe mis o bersbectif Cymru gyfan sy’n ein caniatáu i feincnodi ein perfformiad a darparu sicrwydd i’r Bwrdd.
  • Maent wedi defnyddio eu gwybodaeth a phrofiad i ddarparu hyfforddiant i helpu i gyfleu negeseuon allweddol i staff a rheolwyr, o ran eu cyfrifoldebau yn achos amgylchiadau a dogfennaeth ddiogel, yn ogystal â’r angen am archwiliad cadarn a chadw cofnodion cyn gynted â phosibl yn dilyn unrhyw ddigwyddiadau.
Does dim cyfreithwyr eraill allai ddarparu’r safbwynt a’r ystod o gefnogaeth hwn i ni - dyma ganlyniad eu safbwynt unigryw a’u harbenigedd helaeth."

Jane Williams

Pennaeth Arfer Effeithiol ac o Ansawdd