Neidio i'r prif gynnwy

Caffael, Gwaredu a Phrydlesu Eiddo

Property Team

Pwy ydym ni

Rashmi Chakrabarti, Marianne Hobbs a Kirsty Ellis sy'n gwneud ein tîm Eiddo yn y Cyfreithiol a Risg. Maent yn gweithio ochr yn ochr â thîm o staff cefnogol, yn darparu cymorth cyfreithiol ledled GIG Cymru.  Mae gan ei dîm gwybodaeth a phrofiad helaeth mewn eiddo masnachol ac ystâd GIG Cymru.

Beth rydym yn ei wneud

Mae’r tîm eiddo Cyfreithiol a Risg yn darparu cyngor ledled ystâd GIG Cymru, gan gyflwyno gwasanaeth o ansawdd am gyfraddau cystadleuol. Mae’r tîm yn gweithio’n agos gyda thîm Ystadau Arbenigol Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru ac yn ymgymryd ag ystod o waith, sy’n cynnwys:

  • Caffael swyddfeydd prydlesol ar ran Ymddiriedolaeth a Byrddau Iechyd y GIG;
  • Adnewyddu prydles, gan gynnwys prif amodau a dyddiadau torri lles amrywiol, yn ogystal â gwaith rheoli cyffredinol (trwyddedau i’w haddasu ac ati) mewn cefnogaeth i waith tenant;
  • Gwerthiant prydlesol eiddo masnachol a phreswyl, gan gynnwys darpariaethau i amddiffyn hawliau datblygu yn y dyfodol yn achos tir cyfagos a gedwir gan GIG Cymru;
  • Caffaeliadau prydlesol mewn cysylltiad â datblygiadau graddfa eang gan Ymddiriedolaethau a Byrddau GIG; a
  • Ymholiadau am eiddo, cyffredinol, unigol ar faterion amrywiol, gan gynnwys y maes gofal sylfaenol.

 

“Diolch yn fawr i chi am ddarparu cefnogaeth a chyngor arbenigol… dw i’n hollol siŵr ein bod, oherwydd eich mewnbwn proffesiynol, wedi gallu trefnu del masnachol da sydd â’r peryg lleiaf o risg, neu amodau beichus i’r Ymddiriedolaeth. Unwaith eto, mae’r holl broses wedi arddangos y fantais o ymagwedd rhannu gwasanaeth ac rwyf wedi fy mhlesio’n fawr gyda lefel y gefnogaeth ac ymateb.”

Gwasanaeth Gwaed Cymru