Neidio i'r prif gynnwy

Cwestau

Inquests Team

Pwy ydym ni

Mae’r adran Cyfreithiol a Risg yn derbyn cyfarwyddiadau i gynrychioli Byrddau Iechyd yng nghwestau’r Crwner. Mae gennym ni sawl Cyfreithiwr a Gweithredwr Cyfreithiol profiadol iawn sy’n medru’ch cynorthwyo o’r cyfnod paratoi tan y bydd angen eich cynrychioli yn y llys. Os hoffech chi drafod achos penodol, cysylltwch â’r Tîm Cwestau ar LegalandRiskInquestTeam@wales.nhs.uk

 

Beth rydym yn ei wneud

Yn dilyn cyflwyno Deddf Hawliau Dynol 1998, mae’r nifer o Gwestau yn dilyn marwolaethau mewn ysbytai wedi cynyddu’n fawr.

Fforwm cyhoeddus yw Cwest lle caiff deunydd cymhleth a sensitif iawn ei glywed yn y llys. Mae hefyd yn rhywle lle mae gweithrediadau staff y GIG yn aml yn destun lefel uchel o graffu sy’n brofiad a all beri gryn straen i dystion.

Yn ystod cwest gall yr awyrgylch fod yn llawn tensiwn ac yn ymddangosiadol elyniaethus. Mae ein staff yn brofiadol, yn gallu rhagweld pryd y gall hyn ddigwydd ac yn gallu rhybuddio a pharatoi’r rhai gaiff eu galw i roi tystiolaeth ar lafar er mwyn lleihau’r effaith ar aelodau unigol o staff.

Mae paratoi’n drylwyr a dangos cefnogaeth yn allweddol i leihau’r straen hwnnw a gwneud y profiad yn un haws ei reoli.

 

Cyn Cwest

Ers penodi’r Prif Grwner mae’r broses cwest wedi symleiddio gyda Chwestau yn cael eu cwblhau o fewn 6 mis neu’n gynharach. Mae hyn yn rhoi pwysau ar Fyrddau ac Ymddiriedolaethau Iechyd i sicrhau y caiff adolygiadau o ddigwyddiadau, argymhellion ar gyfer gofal yn y dyfodol a chynlluniau gweithredu eu cwblhau mewn modd amserol all liniaru beirniadaeth a chadarnhau i’r Crwner bod gwersi wedi eu dysgu.  Gallwn ni gynorthwyo gyda’r broses hon drwy fod yn rhan o’r broses archwilio ac adolygu dogfennau er mwyn sicrhau bod y wybodaeth ynddynt yn ymdrin â’r holl faterion sy’n debygol o gael eu harchwilio yn y llys. Bydd dod â’n gwasanaethau ni’n rhan o bethau yn gynnar yn caniatáu’r paratoad gorau.

Pan fydd marwolaeth claf yn cynnwys mwy nag un Bwrdd neu Ymddiriedolaeth Iechyd, gallwn weithredu ar ran pob corff GIG sy’n gynwysedig lle nad oes gwrthdaro o ran buddiannau.

Gallwn fynychu arolygon cyn cwest, os oes angen a gwneud cyflwyniadau i’r llys ar bwyntiau cyfreithiol fel

  • P’un ai yw’r Cwest yn ymgysylltu ag Erthygl 2 Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol ( yr hawl i fyw) neu beidio
  • P’un ai bydd angen rheithgor neu beidio

Mae tystiolaeth ffeithiol gan dystion yn hanfodol i ymchwiliad y Crwner. Gallwn ni eich helpu i baratoi datganiadau gan dystion a’u hadolygu i wneud yn siŵr eu bod yn y fformat cywir ar gyfer y Llys. Byddwn yn darparu parhad a chefnogaeth i dystion drwy sicrhau y delir â phob pob cam o’r broses gan yr un cyfreithiwr.  Rydym yn cwrdd â thystion cyn y cwest er mwyn rhoi mewnwelediad i broses y crwner, a rhoi’r cyfle iddyn nhw ofyn cwestiynau, gyda’r bwriad o leddfu unrhyw bryderon allai fod ganddynt.  Mae’n bwysig i leihau lefelau straen tystion gymaint â phosib fel y gallant ganolbwyntio ar roi tystiolaeth.

Gall datganiadau sydd wedi eu paratoi’n dda gan dystion weithiau osgoi’r angen i dyst fynd i’r llys.

 

Yn ystod y cwest

Gallwn roi cyngor i Fyrddau ac Ymddiriedolaethau Iechyd ynglŷn ag a oes angen iddynt gael cynrychiolydd cyfreithiol mewn cwest.

Pe byddai angen i ni fod yno, byddem yn sicrhau ein bod yn cynrychioli ein cleientiaid yn y modd gorau posibl. Rydym yn gallu drafftio cyflwyniadau i’r llys ar bwyntiau cyfreithiol fel:

  • Adroddiadau Rheoliad 28
  • Y casgliadau sydd ar gael i’r Crwner
  • Esgeulustod
  • Dynladdiad trwy Esgeulustod Difrifol

Ac, yn ôl yr angen, byddwn yn cynghori Byrddau ac Ymddiriedolaethau Iechyd ynglŷn ag a oes angen cyfarwyddo bargyfreithiwr i’w cynrychioli yn y llys.

 

Yn dilyn y Cwest

Yn dilyn Cwest rydym yn darparu gofal dilynol i’n cleientiaid ar:

  • Casgliad y Crwner
  • Unrhyw risgiau sy’n codi o’r dystiolaeth

Gallwn hefyd weithredu ar ran y Sefydliad ar unrhyw  fater o esgeulustod clinigol dilynol sy’n codi o’r un amgylchiadau.

 

Diddordeb y Wasg

Nid yw hi’n anghyffredin i aelodau o’r wasg, yn genedlaethol ac yn lleol i fynychu cwestau fel mater o drefn. Mewn achosion proffil uchel gall hyn, ar adegau, achosi cyhoeddusrwydd anffafriol. Mae gan y tîm gwasanaethu cyfreithiol a risg brofiad o gefnogi staff a’r tîm cyfathrebu trwy gydol y broses.

 

Trydydd Parti

Nid yw hi’n anghyffredin i’r Heddlu, yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch, y cyfreithiwr sy’n gweithredu ar ran y teulu neu’r teulu eu hunain fod yn rhan o bethau. Gallwn ni ymgynghori â phob un o’r Partïon hyn ar ran y Bwrdd Iechyd.


Addysg

Gall y tîm gynnig hyfforddiant wedi ei deilwra’n arbennig yn ein swyddfeydd llawn offer neu mewn man sy’n addas ar gyfer eich anghenion a gall fod yn drafodaeth fer neu ddiwrnod hyfforddi llawn. Gallwn hyfforddi ar faterion o ddysgu eich Staff am Ddatganiadau Tystion hyd at baratoi’n gyffredinol ar gyfer Cwest. Gellir cael rhagor o wybodaeth yma.