Neidio i'r prif gynnwy

Cyngor Gofal Iechyd Cyffredinol

Healthcare Advice Team

Pwy ydym ni

Pennaeth ein tîm Cyngor Cyffredinol yw Mark Harris, Cyfreithiwr sydd â chryn brofiad mewn sawl maes o ran Cyfraith Feddygol.

 

Beth rydym yn ei wneud

Mae ein Hadran Cyngor Cyffredinol wedi datblygu’n arwyddocaol. Mae ceisiadau am gyngor yn ymwneud â gofal iechyd yn cynnwys ystod eang o faterion ledled y GIG. Yn sgil hyn, mae timau arbenigol wedi cael eu creu erbyn hyn i gynnwys Masnachu, Cyflogaeth, Eiddo, Cyfraith Feddygol ac Iechyd Meddyliol.

Ar gyfartaledd mae ein Hadran Cyngor Cyffredinol yn ymdrin â dros 600 o geisiadau am gyngor yn flynyddol. Mae’r canlynol yn rhestr anghyflawn o enghreifftiau er mwyn rhoi blas i chi ar yr amrywiaeth o gyngor y gallwn ei gynnig:

  • Cartrefi Nyrsio Cofrestredig, achosion Arolygiaeth Safonau Gofal Cymru, gofal iechyd parhaus a rhyddhau o ofal
  • Ymholiadau Cyhoeddus, materion Iechyd a Diogelwch a Safonau Masnach
  • Diogelu Data, Rhyddid Gwybodaeth, Cyfrinachedd a Mynediad i Gofnodion Iechyd
  • Deddf Hawliau Dynol, Deddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd a deddfwriaethau gwrth wahaniaethu eraill, fel y Rheoliadau Gwahaniaethu ar Sail Rhyw (Ailgyfeirio Rhyw) 1999 a’r Ddeddf Cydnabod Rhywedd (2004).
  • Ymddwyn ar ran Byrddau Iechyd Lleol mewn Achosion Gofal.
  • Ffrwythloni Dynol ac Embryoleg
  • Deddf meinwe dynol/Gwaredu gweddillion dynol
  • Rhyngweithio gyda’r heddlu ac asiantaethau statudol eraill
  • Arolwg o Bolisïau’r Bwrdd Iechyd ac Ymddiriedolaeth y GIG
  • Ceisiadau am Gyllido ar gyfer Claf Unigol a chost Triniaeth Ardal Economaidd Ewropeaidd
  • Gwarediadau Ewyllysiol ar Gyrff GIG
  • Preifatrwydd, defnydd o ffonau symudol, camerâu a CCTV ar safleoedd GIG
  • Hysbysiadau i’r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau
  • Rheoliadau Ymwelwyr Tramor
  • Rheoliadau Rhestr Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol, System Ddosbarthu Byd Eang, Fferyllol, Opthalmig a Pherfformiwr

Addysg

Mae gennym ystod eang o sgyrsiau a darlithoedd addysgiadol sydd ar gael i’w cyflwyno ar unrhyw adeg. Pe bai gennych unrhyw broblem, neu os ydych eisiau rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’n tîm ar bob cyfrif fel y gallwn drafod eich anghenion ymhellach.

 

“Gweithredodd Mark ar ran yr Ymddiriedolaeth Ambiwlans gan amddiffyn hawliad cyfreithiol a wnaed gan ŵr oedd wedi colli rhan isaf ei fraich dde yn dilyn damwain ffordd. Diolch i arbenigedd, gwaith called a dycnwch Mark, mae’r hawliad wedi dirwyn i ben, gan arbed hyd at £1.2 miliwn i’r ymddiriedolaeth mewn iawndal, ynghyd â chostau a oedd, yn ôl ei gyfreithiwr yn mynd o fod dros £1/2 miliwn. Gwnaeth waith ardderchog gyda hawliad anodd a chymhleth a arweiniodd at ganlyniad gwych i’r Ymddiriedolaeth.”

Trish Gaskell

Rheolwr Hawliadau /Cyfreithiwr

Ymddiriedolaeth Ambiwlans Cymru'r GIG