Neidio i'r prif gynnwy

Cleifion Cymhleth (Y Llys Gwarchod)

Complex Team
“Mae’r cyngor yr ydym yn ei dderbyn bob amser yn amserol ac yn syml. Mae fy nhîm yn gweithio gyda system iechyd a gofal cymdeithasol cymhleth iawn ac mae eglurder eu cyngor ysgrifenedig yn ddefnyddiol iawn wrth gynllunio gofal ac eiriolaeth ein grŵp cleifion.
Mae’r gefnogaeth ddilynol a rhannu gwersi gyda’r tîm ehangach aml broffesiynol hefyd yn eithriadol ac edrychaf ymlaen at weithio gyda’r tîm yn y dyfodol.”

Lesley Lewis, Pennaeth Lleoliadau Nyrsio Ardaloedd, Rhondda a Thaf Elai

 

Pwy ydym ni

Mae Gavin Knox yn arwain y tîm sy’n gweithio’n agos gyda nifer o uwch gyfreithwyr a chyfreithwyr iau. Gyda’i gilydd maent yn anelu at ddarparu gwasanaeth cynhwysfawr all ymateb yn gyflym i anghenion cleientiaid.

 

Beth rydym yn ei wneud

Mae’r gyfraith wrth wraidd perthynas meddyg gyda’i glaf. Mae’n amddiffyn clinigwyr yn erbyn costau troseddol ac atebolrwydd sifil. Mae gan ein tîm gyfoeth o brofiad ac fe allan nhw ddarparu cyngor amserol, ac yn ôl yr angen, cyngor ar unwaith i sicrhau bod staff y GIG yn cydymffurfio gyda’u gofynion cyfreithiol. Os na welwch chi’r gwasanaeth yr ydych ei angen isod ffoniwch ni a byddwn yn gallu eich helpu.

 

Deddf Galluedd Meddyliol

Gyda nifer cynyddol o gleifion GIG a defnyddwyr gwasanaeth heb y galluedd i wneud penderfyniadau ar eu pennau eu hunain, mae angen cynyddol i staff GIG ddeall a gweithredu egwyddorion a darpariaethau’r Ddeddf Galluedd Meddyliol. Gall ein tîm gynnig ymateb cyflym a rhesymedig i unrhyw alluedd neu ymholiad lles gorau. Drwy ymgysylltu’n gynnar â chlinigwyr a theuluoedd gallwn fel arfer gynorthwyo mewn adfer dadleuon neu gyfyng gyngor moesegol ac osgoi’r angen i geisiadau gael eu gwneud yn y Llys.

 

Colli Rhyddid

Mae effaith lawn penderfyniad y Goruchaf Lys yng Ngorllewin Swydd Gaer yn dal i gael ei wireddu gydag effaith enfawr ar adnoddau’r GIG. Tan i’r gyfraith gael ei diwygio gall ein tîm ddarparu cyngor arbenigol i helpu i osgoi colli rhyddid anghyfreithlon. Rydym yn cynghori ac yn cynrychioli Byrddau Iechyd sy’n destun apêl i’r Llys Gwarchod yn gyson.

 

Penderfyniadau Diwedd Bywyd (oedolion a phlant)

Does dim penderfyniadau mwy pwysig na’r rhai hynny sy’n ymwneud â diwedd bywyd. Cawn orchmynion cyson pan fydd dadleuon yn codi rhwng clinigwyr a chleifion neu eu teuluoedd ynglŷn â pha driniaeth y gellir ei roi yn gyfreithlon.

Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Cleifion mewn Cyflwr Diymateb Parhaol (PVS) neu Gyflwr Braidd yn Ymwybodol (MCS)
  • Tynnu triniaeth yn ôl oedd wrth blant ddifrifol wael
  • Dilysrwydd Penderfyniadau o Flaen Llaw i Wrthod Triniaeth (ADRs)
  • Bwydo cleifion sydd ag anawsterau bwyta yn erbyn eu hewyllys
  • Gorchmynion Peidiwch â Mentro CPR (DNACPR)

 

Llys Gwarchod a Cheisiadau Uwch Lys

Ni ellir datrys pob mater yn lleol ac yn y pendraw mae’n rhaid i rai penderfyniadau gael eu gwneud gan Lys. Yn aml gallai'r rhain fod yn achosion dadleuol, cymhleth ac emosiynol gydag iechyd, rhyddid neu fywyd oedolyn sy’n agored i niwed neu blentyn yn y fantol.

Mae gennym brofiad helaeth o wneud ceisiadau i’r Llys Gwarchod a’r Uwch Lys, ac mae gan bob un eu rheolau a’u gweithdrefnau penodol eu hunain. Rydym yn cynnig gwasanaeth sy’n anelu at adfer dadleuon yn gyflym ac yn sensitif er mwyn cadw perthynas therapiwtig gyda chleifion neu deuluoedd.

Mae enghreifftiau yn cynnwys:

  • Trin cleifion (sydd heb alluedd)  yn erbyn eu hewyllys
  • Awdurdodi colli rhyddid
  • Gwneud penderfyniadau o ran triniaeth i blant heb ganiatâd eu rhieni
  • Penderfyniadau diwedd bywyd
  • Iechyd Meddwl

Gan y’i gwelwyd ar un adeg fel maes cyfreithiol ar wahân, mae gwrthdaro a rhyngwynebau cynyddol gyda’r Ddeddf Galluedd Meddyliol a Cholli Rhyddid. Gallwn helpu i gyfarwyddo’r ddeddfwriaeth a chynrychioli’r Bwrdd Iechyd mewn datblygiadau cyfreithiol.

 

Meinweoedd Dynol, Embryoleg, a Rhoi Organau

Gallwn gynghori a chynorthwyo staff GIG yn y meysydd hyn sydd wedi eu llywodraethu gan ddeddfwriaeth gymhleth iawn ac sydd yn aml yn codi pynciau sensitif iawn a chyfyng gyngor ynglŷn â chaniatâd, Hawliau Dynol a chyfrinachedd.

 

Cyfrinachedd

Mae staff y GIG yn aml o dan bwysau gan deuluoedd neu’r heddlu i ddatgelu gwybodaeth gyfrinachol am glaf. Gallwn ni arwain staff trwy’r sefyllfaoedd mwyaf cymhleth gyda sensitifrwydd a disgresiwn.

Dyma rai enghreifftiau:

  • Heddlu’n chwilio am wybodaeth neu enghreifftiau meddygol gan ddioddefwyr neu gyflawnwyr troseddau
  • Datgelu statws HIV
  • Gwybodaeth yn ymwneud â beichiogrwydd plant
  • Cwestau

Mae ein tîm yn cynnig cyngor arbenigol ar gwestau sy’n codi pynciau yn ymwneud ag unrhyw un o’n meysydd arbenigol. Er enghraifft yn achos caniatâd, penderfyniad llesiant gorau, Iechyd Meddwl neu golli rhyddid. Gweler ein tudalen Cwest i gael rhagor o wybodaeth ar y gwasanaethau y gallwn eu cynnig.

 

Dolenni defnyddiol

"Rydw i wedi derbyn ymatebion clir ac ystyriol yn gyson gan y tîm sydd wastad wedi bod yn ddymunol ac yn gynorthwyol. Mae’r gwasanaeth yn hawdd cael mynediad iddo hyd yn oed ar yr adegau hynny pan fydd angen ymateb cyflym arnoch.”

Chris Sayer, Uwch Ymarferwr Deddf Galluedd Meddyliol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda