Neidio i'r prif gynnwy

Esgeulustod Clinigol

Clinical Negligence Team

Mae’r adran yn cynnwys tua 50 Cyfreithiwr esgeulustod clinigol, Gweithredwyr Cyfreithiol a staff cyfreithiol eraill. Mae gan fwyafrif ein cyfreithwyr sawl blwyddyn o brofiad arbenigol a chyfoeth o wybodaeth ym maes ymgyfreitha esgeulustod clinigol.

Mae 4 thîm, un Cymru Gyfan a 3 sy'n canolbwyntio ar y cleient, dan arweiniad Fiona Webber, Anne Sparkes, Alison Walcot a Liz Dawson.

 

Beth rydym yn ei wneud

Mae’r tîm yn amddiffyn pob hawliad cyfreithiol am esgeulustod clinigol a wneir yn erbyn y GIG yng Nghymru. Ein bwriad yw sicrhau, ym mhob achos, bod y canlyniad yn deg a rhesymol i’r claf ac i’r GIG a’i staff.

Rydym yn anelu at fynd i’r afael â hawliadau cyfreithiol yn rhagweithiol, yn deg ac yn gyson.

Pan ellir cyfiawnhau hawliadau rydym yn anelu am setliad cynnar. Caiff hawliadau eu rheoli yn rhagweithiol ac yn gadarn er mwyn sicrhau setliad teg a chyfiawn. Fodd bynnag, pan wneir hawliadau heb gyfiawnhad, caiff y rhain eu hamddiffyn yn gadarn, hyd at dreial os oes angen.

Rydym yn archwilio hawliadau cyfreithiol mor gyflym â phosibl. Rydym yn cwrdd â staff clinigol a staff eraill ac yn cael gafael ar dystiolaeth arbenigol yn ôl yr angen. Oherwydd ein perthynas unigryw gyda’n cleientiaid rydym yn gallu darparu cefnogaeth ddigymar i aelodau o staff sy’n dystion mewn hawliadau cyfreithiol.

Mae nifer cynyddol o hawliadau cyfreithiol a wneir yn erbyn y GIG werth dros £1miliwn. Mae’r hawliadau hyn yn aml yn rhai cymhleth iawn ac mae angen iddynt gael ei rheoli gan ein cyfreithwyr medrus iawn. Mae gennym brofiad helaeth mewn rheoli hawliadau cyfreithiol o werth mor uchel.

 

Risg

Yn ôl yr angen rydym yn tynnu sylw cleientiaid at y risgiau clinigol a nodir yn ystod archwiliad o hawliadau cyfreithiol yn gyflym ac yn effeithiol. Mae ein Pennaeth Diogelwch a Dysgu Cleifion, Jonathan Webb yn arwain yr agwedd hon o’n gwaith ac rydym yn gweithio’n agos gyda Chronfa Risg Cymru yn yr achos hwn.

 

Costau

Mae gennym dîm costau arbenigol sy’n monitro pob hawliad cyfreithiol am gostau, gana roi cyngor ledled yr adran er mwyn gwneud yn siŵr bod costau Cyfreithwyr Hawlio dan reolaeth gadarn. Caiff arbedion sylweddol o ran costau eu gwneud yn gyson.

 

Addysg

Mae’r gyfraith sy’n llywodraethu esgeulustod clinigol yn gymhleth ac yn newid o hyd. Rydym yn ymfalchïo yn y ffaith ein bod yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’n cleientiaid yn achos newidiadau cyfreithiol allweddol. Mae’r rhan fwyaf o’r tîm esgeulustod clinigol yn rhoi sgyrsiau cyson i amrywiaeth eang o grwpiau staff ledled y GIG yng Nghymru.

“Mae Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg yn darparu gwasanaeth proffesiynol a gwybodus iawn. Mae eu cyngor yn glir ac yn galluogi’r Bwrdd Iechyd i wneud penderfyniadau gwybodus ar esgeulustod clinigol a hawliadau cyfreithiol ar anafiadau personol. Yn Nhachwedd 2014 roedd y Bwrdd Iechyd yn hyderus wrth fynd ag achos i dreial, oherwydd y cyngor ardderchog a ddarparwyd gan Wasanaethau Cyfreithiol a Risg. Rydw i’n falch o ddweud bod y Bwrdd Iechyd wedi amddiffyn yr achos yn llwyddiannus. Roedd Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg yn hanfodol wrth ddarparu’r cyngor a’r gefnogaeth yn y mater hwn a hefyd wrth sicrhau bod holl gostau’r Bwrdd Iechyd yn cael eu had-dalu. Canlyniad hyn oedd arbedion ariannol arwyddocaol i’r Bwrdd Iechyd. Byddwn yn argymell yn fawr y gwasanaeth a ddarparwyd gan Wasanaethau Cyfreithiol a Risg i gydweithwyr mewn Byrddau Iechyd eraill”.

Eleanor Evans

Dirprwy Bennaeth Rheoli Risg a Gwasanaethau Cyfreithiol

Bwrdd Iechyd ABMU