Neidio i'r prif gynnwy

Masnachol, Rheoleithiol a Chaffael

Commercial Team

Pwy ydym ni

Yn ein Tîm Masnachol mae Andrew Evans, Laura Johnson, Daniel Gandy a Leanne Fowler, ac fe’u cefnogir gan gyfreithwyr dan hyfforddiant. Gyda’i gilydd mae ganddynt nifer fawr o flynyddoedd o brofiad mewn ymdrin ag ystod helaeth o ddadleuon cyfreithiol, goruchwylio’r broses caffael a rhoi cyngor ar degwch gweithdrefnol ledled GIG Cymru.

 

Beth rydym yn ei wneud

Mae’r tîm Masnachu yn hysbysu cyrff iechyd ledled Cymru ar bob math o faterion, rhai dadleuol a rhai nad ydynt yn ddadleuol, sy’n cynnwys materion Masnachol (cytundebau cytundebol) a materion yn ymwneud â chyfraith gyhoeddus (adolygiadau barnwrol). Rydym hefyd yn helpu’r GIG i ddeall cymhlethdodau’r ddrysfa o reoleiddio sy’n bodoli.

Ein hethos yw helpu Byrddau ac Ymddiriedolaethau yng Nghymru i reoli’r materion hyn mewn ffordd ymarferol ac amserol a’n rhyddhau i wneud yr hyn y mae’n ei wneud orau, sef trin cleifion.

Isod mae rhestr anghyflawn o rai o’r pynciau yr ydym yn gallu rhoi cyngor arnynt:

  • Cytundebau masnachol
  • Cyfraith caffael (Cyngor ar reoleiddio a gweithdrefn)
  • Dogfennaeth caffael (Cyngor ar ddrafftio ITT,PQQ a manyleb)
  • Heriau caffael
  • Defnyddio triniaeth a gwasanaethau allanol
  • Eiddo deallusol
  • Cyfraith Rheoleiddio
  • Cyfraith cytundeb cyhoeddus (Cytundebau GMS/GDS)
  • Partneriaeth Gyhoeddus/Preifat (Gwasanaeth Canser Cenedlaethol)
  • Adolygiad Barnwrol
  • Ymgyfreitha Masnachol
  • Casglu dyledion
  • Dadleuon Dinasyddiaeth
  • Dadleuon rhwng awdurdodau cyhoeddus yn ymwneud â chyllido
  • Datrysiad dadleuon
  • Drafftio polisi
  • Adeiladu
  • Cyfraith Ryngwladol (MOU a SLA gyda llywodraethau tramor)
  • Troseddol
  • Twyll Sifil
  • Gwaharddebau
  • Enllib
  • TUPE
  • Cyfraith gwybodaeth (Gwarchod Data a materion Rhyddid Gwybodaeth).

Rydym yn ymfalchïo yn y ffaith mai ni yw, nid yn unig y gwerth gorau am arian, ond y tîm cyfreithiol nad oes ei debyg o ran dyfnder gwybodaeth o’r GIG a sut y mae’n gweithio.

“Mae argaeledd ein cefnogaeth gyfreithiol ein hunain wedi gwneud gwahaniaeth mawr i gydweithwyr Caffael ledled Cymru. Rydym wedi gallu datblygu perthnasoedd ar y cyd sy’n llawer agosach sy’n gweithio er lles GIG Cymru. Mae proffesiynoldeb y tîm o’r safon uchaf ".

Mark Roscrow

Cyfarwyddwr Gwasanaethau Caffael

Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru