Mae’r tîm Unioni Cam yn cael ei arwain gan Gemma Cooper, sy’n Gyfreithiwr profiad Esgeulustod Clinigol profiadol. Caiff Gemma ei chefnogi gan Charlotte Morgan, Cyfreithiwr, ac Angharad Wynford-Thomas, Gweithredwr Cyfreithiol. Mae’r tair yn darparu cyngor i holl GIG Cymru.
Mae Mesur Gwneud yn iawn am Gamweddau GIG (Cymru) 2008 a Rheoliadau (Trefniadau Pryderon, Cwynion ac Iawn) (Cymru) y GIG 2011 wedi rhoi cyfle i Gyrff Iechyd symleiddio’r broses o archwilio pob pryder a godir gan gleifion, eu teuluoedd a staff. Mae’r ddeddfwriaeth hon yn unigryw i Gymru.
Gweler isod am ddolenni at y ddeddfwriaeth a’r arweiniad perthnasol:
Mae’r manteision o adfer pryder yn unol â’r trefniadau yn cynnwys gwell fynediad i gyfiawnder i gleifion, gwell diogelwch i gleifion ac arbed costau i GIG Cymru o ran ffioedd cyfreithiol. Cafwyd canlyniadau ffafriol ledled GIG Cymru. Mae ein tîm wedi ei gynllunio i gynorthwyo cyrff GIG i elwa’n llawn o’r cynllun.
Mae gan Dîm PTR Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg wybodaeth arbenigol o’r Ddeddfwriaeth ac Arweiniad a roddir gan Lywodraeth Cymru. Mae gan bob Corff Iechyd bwynt cyswllt sy’n sicrhau y caiff perthnasoedd cryf gyda chleientiaid eu hadeiladu a’u cynnal. Cynigwn ymagwedd ymarferol o ran cymorth a gallwn ddarparu cyngor ac arweiniad ar unwaith wrth archwilio digwyddiadau, cwynion a phryderon difrifol.
Gallwn gynorthwyo gyda dealltwriaeth o’r Rheoliadau ar bynciau sy’n codi, fel:
Yn ogystal â Chyrff Iechyd sy’n gwario, mae tîm PTR yn aelodau allweddol o’r gwaith a wneir gan Lywodraeth Cymru yn dilyn adolygiad Evans’. Rydym yn anelu at sicrhau y caiff arfer da ei rannu ledled GIG Cymru.
Cynorthwyo i symleiddio’r broses a sicrhau y caiff ei gynnal heb drafferth, er mwyn i’r broses o Unioni gael ei gweld fel dewis da o’i gymharu ag ymgyfreitha
Mae’r tîm wedi cael ei gymeradwyo’n fawr yng Ngwobrau Staff yr NWSSP 2016 a’u henwebu ar gyfer Gwobrau Cymdeithas y Gyfraith 2016.