Mae Gwasanaethau Gofal Sylfaenol yn casglu ystod eang o ddata ynghylch y ddarpariaeth o wasanaethau yn y GIG. Mae'r darnau canlynol o'r data hynny ar gael:
Mae’r echdyniadau hyn yn ymdrin â gwybodaeth sy’n seiliedig ar ragnodi a dosbarthu yng Nghymru. Maent yn cael eu grwpio yn ôl y math o ragnodydd, Meddygfeydd, Ysbytai, Deintyddol a Gwasanaeth Ambiwlans Cymru.
Dwy set ddata sy’n nodi nifer yr eitemau a bresgripsiynwyd fesul fferyllfa, wedi eu trefnu yn ôl y practis meddyg teulu lle ysgrifennwyd y presgripsiwn ac i’r gwrthwyneb.
Gweithgarwch Contractwyr Presgripsiynu yn ôl Gwasanaeth
Data am ystod o wasanaethau uwch, ychwanegol a hanfodol a ddarperir gan Fferyllfeydd Cymunedol, Contractwyr Presgripsiynau Dyfeisiau a Phractisiau Meddyg Teulu.
Cyfanswm nifer yr eitemau presgripsiwn a roddwyd gan bob practis meddyg teulu yng Nghymru yn ôl mis a nifer y cleifion sydd wedi cofrestru â’r practis.
Adroddiad blynyddol cryno ar gyfer Cymru gyfan, sy’n cynnwys gwybodaeth am nifer yr eitemau a chost cynhwysion net ar gyfer pob presgripsiwn a roddwyd yn y gymuned yng Nghymru. (Dolenni i Ystadegau Presgripsiynau Llywodraeth Cymru)