Defnyddir Dangosyddion Presgripsiynu fel modd o gymharu Sefydliadau Gofal Sylfaenol â’i gilydd mewn meysydd diffiniedig o bresgripsiynu.
Drwy ddilyn y tudalennau a restrir isod gellir dod o hyd i’r data dangosyddion presgripsiynu chwarterol ar ffurf taenlen, ac mae modd ei gweld neu ei harbed ar eich peiriant lleol er mwyn ei golygu.
Dilynwch y dolenni i’r maes sydd o ddiddordeb i chi:
Mae’r dangosyddion lleol gwreiddiol, a ddatblygwyd ar y cyd â’r Fforwm Ymgynghorwyr Fferyllol a Meddygol, wedi eu disodli bellach a’u henw yw ‘Cymaryddion Cymru Gyfan’.
Data ynghylch tueddiadau dros bum chwarter ar gyfer y Cymaryddion Cymru gyfan.
Dangosyddion lefel uchel Cymru gyfan a ddatblygwyd gan Grwp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru Gyfan a Phartneriaeth Meddyginiaethau Cymru.
Mae’r dangosydd Presgripsiynau Amlroddadwy wedi ei gyflwyno’n rhan o’r Fframwaith Gweithredu Blynyddol 2010/2011.