Yn ystod y cyfnod hwn, mae llai o ofynion i unigolyn sy'n llenwi ffurflen Amlosgi 4 neu'r Dystysgrif Feddygol o Achos Marwolaeth edrych ar y corff. Fodd bynnag, os yw'n ofynnol i chi edrych ar y corff, neu os ydych am gadarnhau pwy yw'r unigolyn ymadawedig, dylid dilyn y canllawiau isod ar gyfer rheoli heintiau a gwisgo PPE:
Codwyd cwestiynau a phryderon ynghylch cael gwared ar reolyddion calon a dyfeisiau eraill y gellir eu mewnblannu. Mae gwefan NAFD yn nodi (https://nafdcovid19.org.uk/advice-for-funeral-directors/frequently-asked-questions/) os na fydd yr ysbyty yn tynnu’r rheolydd calon cyn i'r trefnydd angladdau fynd â'r person ymadawedig i'w ofal, mae canllawiau Public Health England yn cadarnhau y gall pêr-eneinwyr gyflawni'r weithdrefn hon gan ddefnyddio'r PPE priodol.
Mae The British Institute of Embalmers wedi cyhoeddi canllawiau penodol ar y broses hon i’w aelodau ac mae’r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cadarnhau y bydd trefnwyr angladdau yn gallu cyrchu cyflenwadau PPE trwy eu Fforwm Lleol Cymru Gydnerth. Fodd bynnag, rydym yn ymwybodol nad polisi rhai trefnwyr angladdau eu hunain yw pêr-eneinio na symud rheolyddion calon o achosion COVID-19 a gadarnhawyd neu a amheuir.
Mae The British Heart Rhythm Society hefyd wedi cyhoeddi datganiad ar Ddadactifadu a Thynnu ICDs a Rheolyddion Calon Post-Mortem yn ystod Pandemig COVID-19: https://bhrs.com/bhrs-mortuary-icd-deactivation-statement-covid-19/
Mae gan Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) y canllaw hwn (tudalen 24):
https://www.hse.gov.uk/pubns/books/hsg283.htm
ac mae gan DMAG y canllaw hwn:
http://www.dmag2020.org/bie-guidance-for-embalmers/
Mae'r holl ganllawiau'n nodi y gellir tynnu rheolyddion calon / mewnblaniadau i hwyluso cais amlosgi gan deulu, ond dylid cynnal asesiad risg priodol, dylai PPE priodol fod ar gael a dylai'r unigolyn sy'n ei dynnu allan fod yn gymwys ac yn cytuno i gyflawni'r weithdrefn.