Mae Deddf Cofrestru Genedigaethau a Marwolaethau 1953 yn nodi bod gan y meddyg a ymwelodd â'r ymadawedig yn ystod ei salwch olaf ddyletswydd gyfreithiol i gwblhau Tystysgrif Feddygol o Achos Marwolaeth a threfnu ei danfon at y cofrestrydd perthnasol cyn gynted â phosibl i alluogi'r cofrestriad i ddigwydd. Dylai'r ymweliad fod o fewn 14 diwrnod cyn y farwolaeth, neu mae'n rhaid ei fod wedi edrych ar y corff ar ol y farwolaeth.
Mae'r ddeddfwriaeth frys gyfredol a gyflwynwyd i helpu gyda’r gwaith o reoli pandemig COVID-19 yn cynnwys diwygiadau i ganiatáu i'r meddyg sy'n ymweld gyflwyno’r Dystysgrif Feddygol o Achos Marwolaeth am y rhesymau canlynol:
Mae'r ddeddfwriaeth frys hefyd yn caniatáu i ymarferydd meddygol cofrestredig arall, nid yr ymarferydd a ymwelodd â'r ymadawedig yn ystod ei salwch olaf lofnodi’r Dystysgrif Feddygol o Achos Marwolaeth am y rhesymau canlynol:
Gall ymarferydd meddygol cofrestredig lofnodi’r Dystysgrif Feddygol o Achos Marwolaeth hyd yn oed yn achos rhywun nad yw ymarferydd meddygol wedi ymweld ag ef/hi yn ystod ei salwch olaf am y rhesymau canlynol:
Lle nad chi yw'r ymarferydd sy'n ymweld, dylid diwygio'r datganiad ar y Dystysgrif Feddygol o Achos Marwolaeth i gofnodi a ymwelodd ymarferydd meddygol ai peidio, ac os na, a yw meddyg arall wedi ymweld â’r ymadawedig o fewn 28 diwrnod neu ar ôl ei farwolaeth. Dylid defnyddio'r blychau presennol sydd wedi’u cylchu ar gyfer y gofyniad ar ôl marwolaeth. Rhaid defnyddio llofnod ysgrifenedig wrth lofnodi Tystysgrif Feddygol o Achos Marwolaeth ond gellir ei sganio a’i throsglwyddo i’r cofrestrydd yn electronig trwy gyfeiriad e-bost gwaith diogel a phersonol.
Dylid cadw at ganllawiau'r Swyddfa Ystadegau Gwladol wrth lunio achos marwolaeth ar gyfer y Dystysgrif Feddygol o Achos Marwolaeth a dylid ystyried geiriad derbyniol at ddibenion gofrestru. Gellir gweld y canllawiau safonol ar gyfer cwblhau'r Dystysgrif Feddygol o Achos Marwolaeth gan y Swyddfa Gofrestru Gyffredinol yma: https://www.gov.uk/government/publications/guidance-notes-for-completing-a-medical-certificate-of-cause-of-death.
Gellir dod o hyd i gyngor ar lunio achos marwolaeth a geiriad ac ymadroddion derbyniol at ddibenion cofrestru yma: Hwb Cyngor Canolog ar Ardystio Marwolaethau, y Dystysgrif Feddygol o Achos Marwolaeth - Llunio achos marwolaeth a geiriad ac ymadroddion derbyniol
Mae'r gofyniad i lenwi'r dystysgrif gadarnhad feddygol (ffurflen Amlosgi 5) wedi'i atal a bydd amlosgiadau'n cael eu hawdurdodi ar ffurflen Amlosgi 4 a ffurflen Amlosgi 10.
Mae'r gofyniad i'r ymarferydd meddygol sy'n ymweld lenwi ffurflen Amlosgi 4 wedi'i atal. Bellach gall unrhyw ymarferydd meddygol lenwi ffurflen Amlosgi 4, hyd yn oed os na wnaeth ymweld â’r ymadawedig yn ystod ei salwch olaf neu ar ôl marwolaeth, os cyflawnir yr amodau canlynol:
Gellir gweld y canllawiau llawn ar hyn yma: https://www.gov.uk/government/publications/medical-practitioners-guidance-on-completing-cremation-forms
Mae ffurflen Amlosgi 4 yn aros yr un fath ac mae fersiwn PDF i'w gweld yma: https://assets.publishing.service.gov.uk/government/uploads/system/uploads/attachment_data/file/832911/cremation-form-4-medical-certificate.pdf
Gellir ei chwblhau, ei llofnodi a'i chyflwyno'n electronig yn uniongyrchol i'r amlosgfa. Bydd llofnod electronig yn cael ei gynnwys wrth i'r ddogfen gael ei hanfon o gyfrif e-bost diogel y person sy'n llenwi ffurflen Amlosgi 4.
O dan y ddeddfwriaeth newydd, nid oes angen archwilio'r corff i gwblhau ffurflen Amlosgi 4 os gwelwyd yr ymadawedig naill ai:
Dylai Ymarferydd Meddygol sy'n cyflawni rôl Ardystiwr Marwolaeth Gymwysedig ddogfennu'r holl drafodaethau, adolygiadau a chasgliadau os gofynnir iddo’n ddiweddarach gyfiawnhau neu egluro ei benderfyniadau neu ei resymeg. Gellir dod o hyd i ffurflen cofnod achos enghreifftiol yma: QDC case record pro-forma
Gellir dod o hyd i gyngor ar sut i lenwi Tystysgrif Feddygol o Achos Marwolaeth a ffurflen Amlosgi 4 pan nad chi yw'r meddyg sy'n mynychu yma: